Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/221

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae llywodraeth Duw yn dda. Da iawn yw deddf Duw—ei reol i lywodraethu wrthi, y mae hon yn dda iawn. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng fel y mae Duw yn llywodraethu pethau yn awr rhagor fel y buasai efe yn llywodraethu pe buasai dynolryw yn aros yn y cyflwr y crëodd efe hwynt. Ni fuasai y gofid a'r poenau sydd arnom, pe yr arosasem ni yn y cyflwr y crëwyd ni ynddo. Ond gwialen o herwydd ein bai yw; y mae gwïalen i gefn yr ynfyd yn gweddu. Ond y mae efe yn gwneyd yn awr mor dda ag y gallesid. Nid oedd modd i anfeidrol ddoethineb allu gwneyd yn well nag y mae Duw yn gwneyd. Daioni yw ei amcan yn mhob peth, a'i folianu ef am ei ddaioni yw ein dyledswydd ninau. Y mae Duw yn Frenin da; ac y mae ganddo gyfraith dda; a hyn yw y gamp ar gyfraith, ei bod hi yn tueddu at les ei deiliaid hyd y byddont yn cydffurfio â hi. Felly y mae cyfraith Duw—ei phlan hi yw dedwyddwch ei deiliaid; ond y mae pechod yn ei dyrysu, yn gwneuthur dyryswch yn y system, ac yn dwyn gofid i mewn yn achos hyny; ond ei hamcan hi yw eu dedwyddwch. Y mae deddf Duw yn dyfod i mewn yn uniongyrchol at ddaioni, ac onid yw yn gywilydd i ni droseddu deddf Duw; a chonsidero ei bod hi yn tynu at bob peth, goreu i ni, yr un fath a'r eneth hono ar ol iddi gonsidero mai ei lles yr oedd ei thad a'i mam yn ei geisio. Beth pe byddai i chwithau gonsidero ai onid eich lles y mae Duw yn ei geisio wrth eich galw i ufuddhau i'w gyfraith ddaionus? Ni raid i chwi fod yn philosophers annghyffredin i wybod hyn. Y mae Paul yn dyweyd bod deddf Duw yn gyfiawn, yn sanctaidd, a da. Peth o bwys annghyffredin yw hyn; ni bydd dim yn iawn heb fod yn gyfiawn, nid oes dim a gyfyd garictor i fyny heb hyn. Y mae deddf Duw yn gyfiawn a sanctaidd, ac o ganlyniad y mae hi yn dda.

Y mae rhai yn digio wrthi o herwydd ei bod yn melldithio ei throseddwyr. Os condemnir unrhyw beth ag y dichon ei fod yn ddrwg wrth ambell i ddyn, hwyrach mai digio yn annghyffredin a wna efe wrthych. Felly y mae llawer gyda deddf Duw. Y maent yn digio yn annghyffredin wrthi, am ei bod yn condemnio pethau y maent hwy yn yn eu caru, er eu bod yn ddrwg. Ond y mae deddf Duw yn ceisio eu lles o hyd. Oblegyd y mae pechod yn dra phechadurus yn ei goleu hi, a rhinwedd yn dra chysurus. Ond