Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/222

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn yw y perygl, i ni fyned o dan lywodraeth rhagfarn, a myned yn erbyn deddf ddaionus Duw, tra mai cariad at bechod yw yr achos. Pa fodd y mae hyn yn bod? Wel, y mae yr holl ddrwg yn dy fai di. Beth yw y felldith sydd gan y ddeddf am hyny? Wel, y mae mor onest a dyweyd natur y drwg yr wyt yn ei wneyd; ac ystyried hyn, onid yw yn dda, yn enwedig am fod diangfa i'w chael, ac onid yw yn bity na folianem yr Arglwydd am ei ddaioni a'i ryfeddodau i ni feibion dynion? Y mae ei ddeddf yn dda, ïe, yn hynod dda; prawf o hyny yw, bod dedwyddwch dyn i'w fesur yn ol graddau ei gyd—ffurfiad ef â hi. Ac os ydym heb gyd—ffurfio â'r ddeddf, y mae yn anmhosibl i ni fod yn hapus iawn; ond lle y mae cyd—ffurfiad ehelaeth a'r ddeddf, y mae yno gryn lawer o hapusrwydd. Y mae graddau hapusrwydd dynolryw yn cydraddoli mwy â chydffurfiad â deddf Duw nag y maent yn cydraddoli â'r pethau bydol y maent yn eu meddu. Pe byddai ein meddwl yn gydffurf a deddf Duw, ac a llywodraeth y Jehofah, byddai y ddaear yn fuan wedi troi fel temli addoli yr Arglwydd, a byddai llais cân a moliant yn ein holl byrth.

Arwydd arall mai un pur ddaionus ydyw Duw—ei fod wedi gofalu am fod rhyw gysur pur sylweddol yn gysylltiedig â chyflawniad pob dyledswydd. Y mae pechod yn felus i'r genau rywfodd, y mae pechod yn fwyn dros y pryd ond y mae y canlyniad yn wastad yn chwerw. Nid rhaid i ti fyw yn y byd yma yn hir, na cha yr annuwiol weled mai drwg a chwerw yw byw felly dros amser. Felly o'r tu arall, nid oes un ddyledswydd a orchymynir i ti fel creadur, ac fel pechadur hefyd, nad oes ryw gysur pur sylweddol wedi ei gysylltu â hi. Ein dyledswydd ni yw gweithio ein galwedigaeth a'n dwylaw. A phe yr ystyriech y fath bleser sydd i'w gael wrth lafurio y ddaear yma, chwi a synech. Nid wyf yn meddwl nad oes ryw gysur yn mhob llafur—chwareu i'r plant, y maent yn cael ryw gysur rhyfedd; ond y mae cysur hefyd wrth weithio. Y mae y Duw mawr wedi gofalu am fod ryw gysur i'w gael yn yr ymarferiad a phob dyledswydd. Pe buasai dyledswydd yn gas i ni, fel y mae i ddynion diog: y mae hi yn gas iawn i'r rhai hyny, oblegyd nid ydynt yn cydffurfio a'r drefn. Y mae llawer o lafur i'r fam hefo ei phlant, ond y mae yno ryw gysur rhyfeddol hefyd.