Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/230

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Duw, i ddyweyd yn dda mewn gair am dano." Y mae pobl dduwiol y Beibl yn son am Dduw dan ei ganmol yn wastad. Canmolant ef pan yn son am ei farnedigaethau, Tithau ydwyt gyfiawn, a ninau yn annuwiol." A phan nad ydyw trallodion yn gwasgu arnynt, felly y dywedant, "Profwch a gwelwch.' Pa bethau sydd genyt? O! caniadau i ddangos "mor dda yw yr Arglwydd gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo." Fy enaid bendithia yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iachau dy holl lesgedd." Cân fy ngogoniant iddo ef. Y mae yn felus ei fyfyrdod am dano, ac y mae yn bur naturiol i air o ganmoliaeth ddyfod o'i enau i'r Duw mawr. Y mae hyn yn brofiad genym mai nid yn aml y mae'r un gŵr neu wraig ag y mae yn dda genym am danynt, sydd yn gwneyd llawer o ddaioni, na ddaw rhyw air o glod dros y tafod am danynt. Fel yna y mae duwiolion; y maent yn canmol Duw ac yn dyweyd yn dda am dano, fel pe byddai yn dyfod heb iddynt geisio, fel y mae y dwfr yn dyfod o'r ffynon. "Fy enaid bendithia yr Arglwydd," meddai Dafydd, "a chwbl sydd ynot ei enw sanctaidd ef."

Hefyd, Ewyllys da i Dduw ydyw. Y mae rhai eisieu gwneyd rhyw un peth o'r cariad yma, ond ni fedrwn i yn fy myw wneyd hyny. Cariad mam at ei phlentyn, nid ydyw o'r un natur a chariad at ei gŵr. Y mae rhyw ychydig o ddifference mewn cariad yn mhob mam o'r bron. Cariad y tad at ei blentyn, a'r plentyn at ei dad; cariad Duw a dyn, nid ydynt o'r un fath yn union. Nid ydyw dy ewyllys da i Dduw yr un fath a'th ewyllys da i gymydog. Y mae y duwiol yn ewyllysio gweled llwyddiant mawr ar deyrnas y Cyfryngwr, a bod ei ewyllys yn cael ei wneyd ar y ddaear megys y mae yn y nef. Nid oes dim modd caru Duw â chariad o dosturi. Y mae yn bosibl caru gelyn felly, ond nid oes modd caru Duw fel hyny. Y mae yn bosibl caru y claf, y tylawd, a'r truenus, â chariad o dosturi, ond nid ydyw yn bosibl caru Duw felly. Gorchymyn Duw ydyw i ni garu ein gelynion; nid cymeradwyo gelyn fel y mae yn elyn, ond caru gelyn, sef tosturio wrtho ac ewyllysio yn dda iddo, a rhoddi hwnw mewn gweithrediad pan fydd cyfleustra. Ond y mae y Duw mawr wedi rhoddi ei gariad yn y fath fodd ag y gelli di