Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/231

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddangos dy ewyllys da. Y mae cyd-darawiad ewyllys y Creawdwr a'r creadur yn gyffredinol ar y byd. Nid ellwch garu Duw heb ddymuno fod plant dynion oll yn cydnabod un Duw, a'i enw yn un.

Hefyd, y mae caru Duw yn cynwys ymhyfrydiad enaid yn Nuw. Beth ydyw bod dyn yn ei garu ei hunan, ac yn caru arian? Gormod o hyfrydwch sydd ganddo ynddo ei hunan ac mewn arian. Beth sydd yn peri i ddyn ymhyfrydu llawer mewn clod a pharch? Gormod o delight sydd ganddo ynddo. Dyna ydyw caru Duw, bod yr enaid yn ymhyfrydu yn Nuw—" yn ymhyfrydu yn nghyfraith Duw o ran y dyn oddimewn." Yn mhob man lle y mae heddwch, tegwch, a dymunoldeb mawr, y mae yr enaid dynol yn ymhyfrydu yn hwnw. Pan edrych un ar greadigaeth Duw, a'i gweled yn deg odiaeth, y mae rhyw ymhyfrydiad yn hyny. Y mae gweithredoedd Duw yn deg iawn yn eu lle. Gwnaeth y ddaear yn hynod brydferth, cododd ei chefnau, a dyfrhaodd ei rhychau, gwnaeth i'r afonydd redeg trwy ei dyffrynoedd, paentia yr wybren uwch ein pen bob boreu a phrydnawn yn wahanol o'r bron; ond y mae tegwch y greadigaeth yn diflanu yn ymyl tegwch Duw ei hun. Y mae efe yn anfeidrol hawddgarach na'r pethau a greodd, ac na'u holl hawddgarwch wedi dyfod yn nghyd. Y mae hollalluawgrwydd Duw yn cael ei lywodraethu gan anfeidrol ddoethineb, daioni, a thrugaredd. Adlewyrcha holl briodoliaethau y Duwdod hawddgarwch a dymunoldeb ar eu gilydd. Ÿ mae hynyna mewn cariad. Gelli fod yn annedwydd yn y plentyn goreu a feddi, gall y gŵr fod yn annedwydd yn ei wraig, gall ei hafiechyd neu ei marwolaeth fod yn chwerw iawn iddo, gelli fod yn annedwydd mewn meddianau, gelli eu colli a theimlo hyny. Ond nid all neb fod yn annedwydd yn Nuw, y mae ef uwchlaw cyfnewidiadau y greadigaeth, ac uwchlaw pob adfyd a pherygl; byth ni byddi yn annedwydd yn y Duw a'th wnaeth, ond ei gael yn Dduw. "Er i'r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olew-wydd a balla, a'r meusydd ni roddant fwyd; torir ymaith y praidd o'r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai." Pa sut y bydd hi arnat, yn enw pob rheswm, os colli hwynt oll? "Eto, mi a lawenychaf yn yr Arglwydd; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth." Y mae mae holl ddymunoldeb a