Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hawddgarwch y greadigaeth i gyd yn myned yn llen deneu iawn wrth y doraeth sydd ynddo ef.

YR ARWYDDION SYDD O'R CARIAD HWN LLE Y MAE. Llebynag y mae cariad at Dduw, y mae y meddwl wedi ei sefydlu ar Dduw— y mae y meddwl wedi centro arno fel y daioni mwyaf—fel y ffynon ddwfr yr hon ni phalla ei dyfroedd. Nid wyf yn dyweyd ei fod yn meddwl am dano bob amser, ac am ddim ond efe; nid ydyw Duw yn ceisio genym felly; y mae hyny yn beth sydd ynddo ei hunan yn anmhosibl, am hyny, nid ydyw dyledswydd neb yn gynwysedig ynddo. Beth ydyw gan hyny? Y mae dy feddwl, wedi cael tipyn o lonydd, yn dyfod o bob man at Dduw. Y mae y meddwl fel cwmpas y morwr, yn y byd yma; y mae tynfa hwnw tua'r gogledd, ond nid yw staunch yn y byd, nid ydyw yr attraction yn gryf iawn, o herwydd gellwch ei droi o amgylch ogylch, y mae yn beth pur wanllyd; ond gadewch lonydd iddo, daw ei bîg at y pwynt, y mae yno ddigon o at—dyniad i'w dynu y ffordd hòno. Felly nid ydyw cariad Duw mor gryf yn y duwiolion nas gall neb ei ddisturbio a'i alw oddiwrth Dduw. Nis gellwch wneyd dim yn iawn heb fod y meddwl yn o glòs gyda'r peth, y mae yn esgyn i'r nefoedd, ac yn disgyn i'r dyfnder, ond gadewch lonydd iddo am dipyn bach, daw i feddwl am Dduw os ydyw ei gariad yno. Y mae gan y cadben ar y llong ar y môr yn yr ystorm gymaint i'w wneyd fel nad ydyw yn meddwl llawer am ei wraig a'i blant gartref; rhaid iddo arfer ei nerth a'i ddoethineb i gadw y llong ar y wyneb, ac heb fyned yn erbyn y creigiau; ond bwriwch fod yr ystorm wedi tawelu, a'i fod wedi dyfod i rhyw safe harbour, gwarantaf fi y rhed ei feddwl at ei wraig a'i blant bach oedd gartref. Nid oedd amser iddo feddwl am danynt yn nghanol yr ystorm, ond erbyn cael tipyn o dawelwch, yr oedd y meddwl yn dyfod yn naturiol atynt. Felly y milwr hefyd, nid oes ganddo yntau ond ufuddhau i'r hwn sydd mewn awdurdod, gan ymgais am fywyd, y rhai sydd yn ceisio am ei fywyd ef. Ond wedi i'r frwydr fyned drosodd, meddylia am ei ffrindiau yn fuan iawn. Wedi i'r drafferth fyned trosodd i'r cristion, daw ei feddwl at ei Dduw. Pa le y bydd dy feddwl yn myned yn dy wely, pan y byddi yn dawel ac esmwyth? Pa le y byddi yn cael dy feddwl yn y boreu pan ddeffroi? Y mae y Salmydd yn dyweyd,