Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad." A ydyw y Duwdod mawr yn ei ddaioni, a'i briodoliaethau dwyfol, wedi myned yn ganolbwynt i'th feddwl di? Nid y cwestiwn ydyw a wyt yn caru Duw, a neb ond Efe, ond a wyt yn caru Duw o flaen pawb a phob peth arall? A wyt yn gweled ei deilyngdod y fath ag y mae i'w garu o flaen pawb, ei ddoniau yn fwy, a'i drugaredd yn well na phawb a phobpeth?

Hefyd, Os ydym yn caru Duw, yr ydym yn caru gair Duw. Nid oes dim yn y byd yma a chymaint o ddelw Duw arno a'r Beibl. Y mae duwiolion y Beibl yma yn eu profiadau yn dangos i ni eu bod yn bur fond o hono. Dywed Dafydd fod ei air "fel mêl, ac fel diferiad y diliau mêl," a'i fod wedi ei gymeryd "yn etifeddiaeth dros byth," efe oedd ei "fyfyrdod beunydd." Yn y bedwaredd Salm ar bymtheg ar ol y cant, y mae yn mhob adnod yn ei ganmol. Os nad ydyw yn bur dda genym am y Beibl, nid ydyw yn dda genym am Dduw. Os nad ydyw tystiolaethau Duw yn werthfawr, yn fwy dymunol na'r "holl olud," nid wyt yn caru Duw; oblegyd y mae ef wedi "mawrhau ei air uwchlaw ei enw oll."

Hefyd, Os ydym yn caru Duw, yr ydym caru ei ordinhadau a thrigfanau ei dŷ. "Yn mhob man," meddai yr Hollalluog wrth Moses, "lle bynag y rhoddaf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf." Gwell oedd gan y Salmydd "gadw drws yn nhŷ ei Dduw na thrigo yn mhebyll annuwioldeb." Y mae "diwrnod yn nhŷ Dduw yn well "na mil" yn un man arall. Cenfigenai wrth aderyn y tô a'r wenol; yr oeddynt hwy yn cael gwneyd eu nythod yn agos iawn at allor Duw. Hiraeth mawr oedd arno pan oedd yn alltud o'i dŷ. Ffrindiau mwy na chyffredin, cyfarfyddant hwy a'u gilydd yn rhyw le. Gwelwch eich cariad a'ch câs braidd yn mhob man. Y mae Duw yn caru 'pyrth merch Sion, yn fwy na holl breswylfeydd Jacob." Dichon rhai dan ryw amgylchiadau fyw yn dduwiol heb addoliad cyhoeddus, ond nis gwn pa fodd y gallwn yn ngwlad y breintiau. Os nad oes yma yr un sect y gallwn yn gydwybodol farnu fod achos y Duw mawr yn eu plith, dylem geisio codi rhywbeth newydd; y mae dyn i fod a'i le yn addoliad Duw, ac y mae Duw wedi gosod ei dŷ yn y byd, ac y mae yn fan cyfarfod Duw.