Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/234

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hefyd, os ydym yn caru Duw, yr ydym yn caru yr Arglwydd Iesu Grist, Mab Duw, y Cyfryngwr. Y mae rhyw gwestiwn rhyfedd iawn yn cael ei ofyn gan Ioan, Yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd?" Yr hwn nid ydyw yn caru Mab Duw, yr hwn a welodd yn y natur ddynol yn cerdded y ddaear, ac sydd i'w weled yn y natur ddynol yn y nefoedd eto, pa fodd y gall garu y Duwdod byth sydd yn anweledig?—Y Duwdod mawr sydd yn hanfodi erioed, yn llenwi y nefoedd a'r ddaear? Y mae creadigaeth aneirif o fydoedd yn ymsymud a bod ynddo ni chreodd ddim tu allan iddo ei hunan. Y mae y cyfan yn symud a bod ynddo ef―ond ar yr un pryd nis gellir ei ganfod y mae yn gweithio ar bob llaw, ond ni fedri gael gafael arno; ychydig iawn a wyddost am dano: ond y mae holl gyflawnder y Duwdod yn yr amlygiadau uchaf o hono i'w weled yn y Cyfryngwr; y mae efe yn Dduw yn y cnawd—" Y gair a wnaethpwyd yn gnawd," ac y mae llawer o blant dynion wedi gweled ei ogoniant. Pa fath o ogoniant oedd? "Gogoniant megis yr unig-anedig oddiwrth y Tad." Y mae Crist yn y natur ddynol yn ddelw y Duw anweledig," ac yn wir lun ei berson ef." Nid oes dim mwy o Dduwdod i'w weled, i ddynion nac angelion, nag sydd yn Iesu Grist. Y mae y natur ddynol ganddo ef yn berffaith yn ei thegwch heb ei hanfri. Y mae efe yn gariad, ac ynddo ef y mae yr amlygiadau uchaf o gariad Duw, ac nid oes modd caru Duw heb ei garu ef.

Hefyd, os ydym yn caru Duw, yr ydym yn caru pobl Dduw. "Yr hwn sydd yn caru yr hwn a genedlodd, y mae yn caru yr hwn a genedlwyd o hono." Y mae cariad brawdol yn wahanol i bob un arall. Caru delw Duw ar dy gydgreadur—caru delw Duw ar y tlawd am ei fod ef yn caru Duw, ydyw cariad brawdol. Y mae hwnyna yn arwydd o dduwioldeb, "Wrth hyn y gwyddom ein bod ni o Dduw, am ein bod yn caru y brodyr." Nid cariad at enw, sect, neu blaid, ond cariad at ddelw Duw, gan nad yn mha le y gwelir. Cariad at y rhai sydd yn caru Duw ydyw cariad brawdol.

Hefyd, os wyt yn caru Duw, yr wyt yn cashau pechod. Y mae Duw a phechod, nid yn unig yn annghymodlawn, ond yn annghymodadwy. Nid oes i bechod ddim hanfod ond