Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drwg. Nid oes i'r Duwdod ddim hanfod ond daioni. Nid oes dim lle i obeithio y cymodir Duw byth â drwg; y mae y naill mor wahanol a gwrthwynebol i'w gilydd, fel nad oes modd eu cymodi. Ond y mae modd cymodi pechadur â Duw er hyny. Y mae modd i Dduw gondemnio pechod a chyfiawnhau y pechadur yn nhrefn yr efengyl. Ac i'r graddau yr wyt yn caru Duw a'i barchu, yr wyt yn casau pechod, ac yn digio wrtho.

Sylwn yn nesaf ar y DARPARIAETHAU SYDD AR GYFER YR HWN SYDD YN CARU DUW.

Yn un peth, Nid oedd trefn yr efengyl wedi ei hamlygu yn amlwg iawn nes dyfod Iesu Grist yn y cnawd. Nid oedd y disgyblion yn deall llawer am ei deyrnas; yr oeddynt wedi credu mai efe oedd yr un a waredai yr Israel; ac mai efe oedd y Messiah; ond er hyn i gyd, ni wyddent pa fodd y gwaredai efe hwynt. Yr oedd trefn fawr iachawdwriaeth fel system yn anadnabyddus i'r rhai duwiol yn yr amser hwnw. Ond wedi gogoneddu yr Arglwydd Iesu, a rhoddi yr Ysbryd, daethant i weled yn eglur ac o bell.—Hefyd, y mae y nefoedd a'i holl ogoniant a'i mawredd yn anadnabyddus i ddynolryw. Y mae un o'r apostolion yn dyweyd "Nid amlygwyd eto beth a fyddwn, ond ni a wyddom pan ymddangoso efe y byddwn gyffelyb iddo." Bydd cael ein hunain yn y byd arall heb gosp yn yn beth rhyfedd, ac heb gorff y farwolaeth yn beth rhyfeddach na hyny;—agor ein llygaid yn y byd mawr, a chael ein hunain ar wastadedd tragwyddoldeb, fydd yn beth rhyfedd iawn; cael ein hunain yn mhlith y saint a phatriarchiaid a merthyron; cael dy hunan yn iach. ac yn berffaith,—

"Pob gwahanglwyf ymaith,
Glan fuddugoliaeth mwy."

Mae y duwiolion yn canu yma

"Wrth gofio'r bore
Na welir arnynt glwy'."

Yma nid oes nemawr ddyn yn berffaith iach—y mae mesur o anhwyl ar systemy rhai iachaf, weithiau yn bruddaidd bron wedi eu bwrw i lawr, mae awyr y wlad yma sydd yn cynal yn fyw yn eu gwisgo i farwolaeth yr un pryd; nid felly yn y nef, mae awyr y wlad hono y fath