Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ti yn dy roddi dithau yn y nefoedd fawr wedi marw. Dyna wna nefoedd i ti—caru Duw â'th holl galon, a theimlo fod Duw yn dy garu dithau. Peidiwch a meddwl fod gan Dduw ryw falais i'ch rhoddi yn uffern; na, Duw da ydyw Duw, ac y mae yn anfeidrol ddaionus. Ei gael yn Dduw ydyw y peth mawr; cael dy Frenin yn Geidwad. Y mae arnaf ofn myned i uffern, meddai rhywun. Nid rhaid i ti, nid ydyw yn lle y rhaid i ti fyned yno. Nid ewch byth yno yn y byd mawr heb fyned ag uffern gyda chwi o'r byd hwn. Y mae arnaf ofn fod uffern wedi dechreu cyneu: nac ydyw, dy uffern di. Y mae hi wedi cyneu ar Cain a Judas, ond y mae dy uffern di heb ddechreu fflamio eto, ac os peidi a myned a thân euogrwydd o'r byd yma gyda thi yno, ni chyneua byth; ond os ai yno, ac euogrwydd yn dy gydwybod, y mae yno ddigon a'i rhydd ar dân—y mae yno ddigofaint yr Arglwydd fel afon o frwmstan i enyn dy euogrwydd. Bydd pob meddwl am Dduw yn dy roddi ar dân. Nis gwn yn iawn pa beth ydyw uffern. Nid oes un man esmwythach i'r annuwiol yn bod nac uffern; y mae yn well lle i'th gadw oddiwrth Dduw nac un man, os âi di yno dan wrthod ei Fab, a barnu yn aflan waed y cyfamod. Paid a myned yno. Paid a myned o'r byd yma yn wrthodwr o'r unig Waredwr drefnodd Duw. Y mae ganddo ef le yn llawn i'th waredu. Dyma y nefoedd y mae y duwiolion yn myned a hi gyda hwy, ac y mae yn esgor yn y byd mawr ar nefoedd fawr. "Gronyn noeth" ydyw nefoedd yn y byd yma, ond bydd yn ddaioni aeddfed o ogoniant yno.