Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/238

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TRAETHODAU




HWDA I TI, A MOES I MINAU.

FELLY y dywedai yr hen Gymry am dalu am bob peth wrth ei gael. Hwda i ti yr eiddo (gan nad beth a fyddai), a dyro i minau yr arian. A thyna y cwbl drosodd, heb eisieu son am amod yn mhellach, dydd tâl, na choflyfr. Wrth brynu unwaith, a thalu ar y pryd, ni thelir ond unwaith, ac ni phalla tâl; pan y mae y gŵr gonest wrth brynu ar goel, yn talu lawer gwaith mewn bwriad, ac efallai yn methu gwneyd mewn gweithred yn yr amser apwyntiedig a'r twyllodrus, er addaw yn deg, heb gymaint a bwriadu yn ddichlyn dalu byth. Dywedir fod dau dalu drwg, sef talu yn mlaen, a thalu rywbryd wedi yr amser yr oedd tål yn ddyledus. Ychydig sydd ddigon gonest, os telir yn mlaen, i werthu i'w gofynwyr heb grog—bris; ac nid oes nemawr ychwaneg wedi prynu ar goel yn ddigon penderfynol i dalu yn yr amser. Ond y mae talu am eiddo wrth ei gael yn gyfrwng dedwydd rhwng y ddau eithafion uchod.

Nid hwyrach nad oes genedl ar y ddaear yn prynu ac yn gwerthu mwy ar goel, yn ol eu rhif, na chenedl y Cymry; na'r un genedlaeth o'r Cymry wedi bod felly gymaint a'r genedlaeth hon. Yn awr, gan hyny, feibion a merched Cymru, gwrandewch arnom yn ddyoddefgar, pan y dywedom fod llawer o'ch gofidiau a'ch gofalon, eich petrusder a'ch ofnau, eich tlodi a'ch cywilydd, a lluaws o'ch siomedigaethau yn tarddu yn uniongyrchol oddiwrth gyfundrefn y coelio. Y mae temtasiynau y drefn hon yn rhy gryfion i'r rhan amlaf o blant Adda. Awydd y masnachwr a'r crefft wr i werthu eu nwyddau, a chadw eu