Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/241

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sydd wedi cynefino â hwynt.

6. Y mae y drefn hon yn peri y cywilydd o geisio eiddo ar goel a chael gomeddiad, yr hyn sydd dra anhyfryd i deimlad pawb. Ond er anhyfryted, y mae y sawl a dreulio gymaint ag a gaffo ar goel, yn sicr o'u profi. Gellid meddwl mai tlodion Ꭹ bobl yw gwrthddrychau hyn o linellau; ond y mae can rheitied i'r cyfoethogion glywed a'r tlodion: y mae llawn cymaint o'r rhai hyn, yn ol eu rhif, yn byw yn uwch na'u henill. Gwelsom unwaith fab i ŵr urddasol yn cael ei omedd i dorth chwe'cheiniog ar goel, er fod ei heisieu, dybygid, erbyn tea brydnawn i'w dad a'i fam. Yn marn pawb, onid oedd hyn yn beth diflas, heblaw ei fod yn gadael y cylläon yn weigion? Mae yn debyg, medd rhywun, mai tipyn o gynghorwr tlawd o ryw enwad neu gilydd oedd y gŵr hwnw. Nage, nage; yr oedd ei fywioliaeth ar y dechreu yn werth, meddynt, o bump i saith gant o bunau yn y flwyddyn y drwg i gyd oedd gwario tair-ceiniog-ar-ddeg ar swllt. Nid oes diwedd byth ar y benbleth a'r cywilydd sydd yn canlyn ar goel tra ceffir. Clywsom am hen bulpudwr oedd yn byw lawer o ugeiniau o flynyddoedd yn ol, ac yn arfer bwyta ac yfed yn uwch na'i foddion. Un boreu Sabbath, gorchymynodd i'w was fyned at Dafydd y cigydd i geisio leg o futton, fel y gallai y forwyn ei thrwsio erbyn ei ddyfod o'r addoliad. "Ac," ebe wrth y bachgen, "yna tyred dithau i'r gwasanaeth." Y bachgen, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a aeth ymaith nerth ei draed at Dafydd y cigydd; a'r hen weinidog dawnus (canys nid y dylaf o'r plant oedd efe), â'i yntau i'r addoliad. Pa fodd bynag, daeth y gwas o dŷ y cigydd, ac aeth i'r gwasanaeth. Erbyn hyn yr oedd yr hen barchedig frawd wedi cymeryd ei destyn yn hanes y cawr Goliah a Dafydd; ac wrth fyned dros yr ymddyddan rhwng Dafydd a'r cawr, gofynodd y pregethwr mewn llais uchel a phendant, "A pha beth a ddywedodd Dafydd?" Y bachgen, gan feddwl mai iddo ef yr oedd yn gofyn, gan ei fod o bosibl yn edrych arno ar y pryd, a atebodd, "Efe a ddywedodd na chaech chwi ddim cig at eich ciniaw, hyd oni thalech am y llall!" Mae pob synwyr yn dywedyd fod yn ddigon anhawdd gorphen y bregeth wedi cael pelen feddygol mor chwerw a hono ar adeg mor anfanteisiol i'w llyngcu. Effeithiai yr un drefn yn gyffelyb