Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/245

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hawdd cysgu ar obenydd y dyledog." Yr un ffunud am y bachgen a'r lodes sydd yn talu am eu dillad wrth eu cael; er nad yw eu cyflog ond ychydig, y mae yn ddigon; ac am ei fod wedi ei enill trwy hir wasanaeth, y mae yn cyrhaedd yn mhell. Nid oes arnynt ben tymhor ofn y siopwr, na'r crydd ychwaith. Dygant eu hunain i arfer dda, yr hon ond odid nad ymadawant â hi am eu hoes. Ni wna rhieni tlodion yn fynych waeth gwaith na dysgu eu plant i brynu ar goel pan yn dechreu gwasanaethu, ac felly eu cynefino â dyled am eu holl ddyddiau. Addefwn y gall y mwyaf cynil a diwyd dan ryw amgylchiadau fyned yn dlawd; ond eithriad yw hyn ac nid y rheol; ac anfynych iawn yr arosant yn hir cyn y cânt ryw ymwared. O fabwysiadu yr egwyddor hon, ni a fyddwn sicr o beidio colledu neb arall; ac y mae hyny yn gysur mawr i gydwybod onest.fr

4. Edrych ar roddi yr eiddo Caesar i Caesar, a'r eiddo Duw i Dduw. Fe allai fod gormod o edrych ar grefydd ar wahan oddiwrth wneyd yr hyn sydd gyfiawn. Gwir fod adnabod pla ein calon ein hun, a dyfod i ymofyn, "pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw, a pha fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân," i'w gwahaniaethu oddiwrth rodiad ac ymarweddiad da. Eto, nid ydynt mewn un modd i'w gwahanu y naill oddiwrth y llall. Y dyn sydd yn ddrwg am dalu ei ffordd, heb roddi yr eiddo dyn i ddyn, y mae yn fwy na thebyg fod hwnw heb roddi yr eiddo Duw i Dduw. Ac y mae bron bawb sydd yn hoff o gael eu coelio yn troi allan bob yn dipyn yn ddrwg am dalu.

Gan hyny, anwyl ddyn, os gwerthfawr genyt dy barch a'th gysur, dy enw da fel dyn gonest, a'th gymeriad fel dyn crefyddol, na fydd yn nyled neb o ddim. Na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y boreu. Ac i'r dyben o gyrhaedd hyn, na phryn ddim ar na fo eu heisieu arnat, pe ceit hwynt am haner a dalont. Na âd ddim yn îs na'th sylw. Na ad tan yfory yr hyn a ddylit ac a ellit ei wneyd heddyw. Na chais neb i wneuthur yr hyn a ellit ac a ddylit ei wneyd dy hun. Na fachnia dros neb am bris yn y byd. Na ddos ychwaith i gyfraith â neb dros dy flingo yn fyw yma mae yr enillwr yn goliedwr. Bydd gymydogol. Dod elusen. Bydd dosturiol. Bydd gymwynasgar. Gwasanaetha dy genedlaeth. Ac uwchlaw y cwbl, gwas-