Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

feg" ar chwant nag ar natur; a gwell peidio cynyrchu y chwant na hyn. Ar y pen hwn hefyd rhaid dywedyd, er fod y gorchwyl yn anhyfryd, nad yw tea a siwgr chwaith yn angenrheidiau bywyd. Maent yn ddiau yn gysurol ac adfywiol, ïe, yn fwy felly nag yn wir gynaliaethol ar yr un pryd daethant i ymarferiad tra chyffredin yn ein gwlad gyda phob dosbarth; ac er eu bod yn îs nag y buont, y maent eto yn ddrudion. Can' mlynedd i heddyw, nid oedd nemawr o ddefnyddio arnynt ond gan foneddigion yn unig. Mae miloedd heddyw yn Nghymru yn fyw nad oedd na theakettle na theapot yn y tŷ ddydd priodas eu teidiau a'u neiniau. Nid diogel, er hyny, yw dywedyd yn eu herbyn, gan eu bod yn ganghenau helaeth o fasnach, ac archwaeth llawer wedi dyfod mor llwyr atynt, nes y maent yn y drws nesaf i fod yn angenrheidiau. Eto, gan nad ydynt wir angenrheidiau, cynghorem bawb i dreio gwneyd hebddynt, hyd oni allont dalu arian parod am danynt. Ond dywed rhywun, nas gall ef byth gael arian parod i dalu, a bod yn rhaid iddo ef gael tea, a siwgr i'w felysu. O'r goreu, nid ydych yn meddwl peidio talu am dano rywbryd, efallai cyn pen blwyddyn; ac os telir y bill yn llwyr yn mhen y flwyddyn wedi iddo ddechreu rhedeg, y mae hyny ar y cyfan yr un peth a chael coel am chwe' mis. Wel, yn awr, cosber y blys am dea am haner blwyddyn, a bydd genych, o ran y tea, arian parod i dalu am dano am eich oes, pe byddech byw cyhyd a Thomas Parr.[1]

3. Y mae yn dra chysurus meddwl fod yr hyn sydd yn y tŷ ac allan wedi talu am dano; ni raid ofni pwy a ddelo i mewn, nac a phwy y cyfarfyddom. Mae dyn gonest yn gweled ei ofynwr yn mhob cynulliad, er efallai nad yw y gofynwr yn meddwl am dano ef. Ond am y neb sydd yn talu am eiddo wrth ei gael, gall hwnw fod yn ddiofal, er fod ei ddiwyg yn gyffredin, a'i fwyd heb fod yn ddanteithiol, y mae yn iachus, a'i hûn yn felus. "Diofal y cwsg potes maip."

"Cael pryd o gawl erfin, heb neb yn fy ngofyn, Mi a gysgwn yn sydyn, mor esmwyth ag undyn.

O'r tu arall, pe byddai dyn yn cymeryd byd da helaethwych beunydd, ac yn ddyledog, y mae ei enaid yn chwerw a'i gydwybod yn ofnus; ac y mae yn ddiareb mai "an-

  1. Old Tom Parr bu fyw hyd 152 oed, yn ôl y sôn