Yr un modd, nid yw tŷ mawr, dodrefn costus, a dillad gwychion, yn angenrheidiol chwaith. Addefwn fod tŷ glan, ac ymborth iach, a dillad trefnus a glanwaith, nid yn unig yn ddymunol, ond hefyd yn angenrheidiol. Ond gall fod bwth y wraig dlawd lanwaith yn dra chysurus yr olwg arno, er nad yw ei gynwys werth ond ychydig, ïe, pe'i gwerthid i'r uchaf ei geiniog. Felly hefyd gellir gweled llawer gwraig a geneth yn dra chryno, o'u coryn i'w sawdl, er fod pâr o glocsiau am eu traed, a'u dillad o'u gwneuthuriad eu hunain. Yr oll o gysur a pharch sydd yn digwydd i ddynion (pa un bynag ai meibion ai merched), a dardd oddiwrth eu glanweithdod a'u crynoder, ac nid oddiwrth eu bod yn dreulfawr. Na cheisiwch, gan hyny, bethau sydd ar ryw gyfrifon yn gysurus ac yn gyfleus eu bod mewn tŷ, hyd onid alloch yn gysurus eu fforddio. Darllenasom am un wraig newydd brïodi, a chanddi ryw swm o arian tuag at ddodrefnu ei thŷ. Yr oedd Miss yn llawn awydd i wychder; prynodd amryw ddodrefn hardd, ac yn mhlith pethau eraill, prynodd garpet costus dros ben. Erbyn talu am y cwbl, yr oedd yr arian wedi myned i gered, fel y dywed pobl y Dê; a chafodd y fûn dirion, cyn i un lleuad basio, fod ei thŷ yn ddiffygiol tua'r gegin, a lleoedd o'r fath, a lluaws o bethau llwyr angenrheidiol. Nid oedd yno fath yn y byd o gafn tylino; na chymaint a chrochan i ferwi cawl. Yr oedd y carpet o'r goreu i'r sawl a allasai ei gostio; ond y mae yn hawdd i blentyn wybod fod yn haws gwneyd hebddo mewn tŷ na heb gafn tylino. Y mae yn wir ei wala hefyd nad yw diodydd costus yn angenrheidiau natur. Ni bu Cymru erioed yn llawnach o dystion eu bod yn afraid nag ydyw yn y blyneddau hyn. Miloedd o bob rhyw, ac oedran, ac amgylchiadau, sydd yn byw hebddynt yn ddigon diddig a chysurus. Addefir hefyd, hyd yn nod gan y rhai sydd yn ei ddefnyddio, nad ydyw y tybacco, er difyred yw y dial arno wrth ei gnoi a'i losgi, ddim yn dyfod i restr angenrheidiau natur, er yr haerir ei fod yn un o'i chysuron a'i difyrau diniwed. Fe ŵyr pawb na cheir mor tair ceiniog a elo am dano at ddim arall, pa faint bynag fyddo y galw am danynt: ni ddeuant yn ol mwy na'r meirw yn eu beddau. O ganlyniad, diogelach peidio a'i arfer, hyd nes y byddo yn amlwg fod rhagluniaeth yn rhoi modd i'w gael. "Gwell gwasgu y
Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/243
Gwedd