Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/250

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Drachefn, ni ddichon sefyllfa isel mwy nag uchel roi nodweddiad moesol i neb. Megys nad yw cyfoeth ynddo ei hunan yn rhinwedd, felly nid yw tlodi ynddo ei hun yn fai. Dichon fod mewn dinas aml ŵr tlawd doeth; ac nid oes nemawr yn ystyried gymaint y mae y rhai hyn yn ei wneuthur tuag at waredu y ddinas yn mhob oes. Gwelir hefyd Nabal, cyfoethog ac ynfyd, yn dwyn dinystr arno ei hun yn gynt na phryd. Job berffaith ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni, yr hwn oedd unwaith yn gyfoethocaf o holl feibion y dwyrain, a welwyd wedi hyny yn dlawd ac yn afiach, yn eistedd yn y lludw wedi colli ei blant, a dyeithriaid wedi ei yspeilio o'i feddianau, a'i gyfeillion am ei yspeilio o'i gywirdeb; ond Job oedd efe drwy y cwbl, yn ofni Duw ac yn ymddiried ynddo. Dafydd hefyd, yr hwn a eisteddodd ar ei deyrngadair, ac a deyrnasodd ar holl Israel, o Dan hyd Beersheba, a fu am flynyddau yn bugeilio defaid ei dad; cafodd grefydd yn fachgen, a pharhaodd ei gymeriad yr un trwy bob cyfnewid, o'r fugeiliaeth hyd y freniniaeth. Weithiau gwelir duwioldeb heb dlodi ar ei chyfyl, a thlodi heb naws o dduwioldeb yn agos ato; ond ar yr un pryd, canfyddir tlodi gonest a duwioldeb yn preswylio dan yr un gronglwyd yn Nghymru, ac yn aml i fwth yn mhendryfan byd. Gallai nad yw eithafion tlodi nac eithafion cyfoeth yn fanteisiol i wir grefydd, eto fe'i gwelir yn dra dysglaer weithiau yn y ddau amgylchiad hwn. Gweled y cyfoethog yn ostyngedig, yn drugarog, ac yn ddiorthrwm, yn cydnabod ei ymddibyniad ar ei Greawdwr a'i gyfrifoldeb iddo, a'i fod yn wrthryfelwr yn erbyn ei lywodraeth, gan ddysgwyl ei drugaredd a'i ras fel ei unig ymwared, sydd yn olygfa dra dymunol. A gweled y tlawd yn y cwr arall, a'i yspryd can ised a'i sefyllfa, heb duchan na grwgnach yn erbyn Duw na dyn—heb genfigen na rhagfarn yn erbyn y rhai sydd mewn llawnder,—yn bwyta pryd o ddail yn llawen gyda chariad Duw yn ei galon, gan gyfrif ei dlodi a'i gystudd onid byr ac ysgafn, yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant iddo—byw i'r hwn yw Crist, a marw sydd elw, a bâr i ni lefain, O! ddedwydd ddyn! Gwelwn gan hyny nad yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo; ac ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint, ond cyfiawnder a wared rhag angeu. Gellir byw yn dduwiol yn nghanol cyfoeth, er yr holl demtas-