Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/251

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iynau a'r maglau sydd ynddo. Ac y mae gras Duw yn dysgu i fod mewn prinder, ac yn peri i'r Cristion allu pob peth trwy Iesu Grist yr hwn sydd yn ei nerthu ef. Ymdrech yw byw yn dduwiol mewn unrhyw gylch: uchelgamp ydyw; nid yw hawdd i neb yn y fuchedd hon mewn un sefyllfa; nac ychwaith yn anmhosibl i neb yn nghymhorth gras, gan nad pa fath fyddo ei amgylchiadau; pe amgen, byddai ei amgylchiad yn ei esgusodi.

Wel, ddarllenydd, tlawd neu gyfoethog, neu ynte yn rhywle yn y canol, na fydded gwaeth genyt dy fod; gwel mai cyfoethogion a thlodion a fu, y sydd, ac a fydd yn y byd hwn ac ni waeth i ddyn daflu ei gap yn erbyn y gwynt na cheisio rhanu cyfoeth yn wastad rhwng pawb a'u gilydd. Pe mynai y doeth galluog wneuthur hyn, eto nid allai ei ddwylaw ddwyn hyny i ben. Buddugoliaethodd Alexander y ffordd y cerddodd, a rhoddodd y Rhufeiniaid gyfreithiau i lawer o deyrnasoedd y ddaear; eto ni wnaethant mo'r byd ronyn gwastadach. Pe byddai pawb trwy y byd yn gydwastad â'u gilydd mewn cyfoeth foreu dydd Llun nesaf, byddai rhai yn dlodion ac eraill yn gyfoethogion cyn y nos Sadwrn cyntaf ar ei ol. Nid arosant yn gydwastad, mwy nag y safai y dwfr ar gefn ceiliog wydd; ie, hyd yn nod ar y dybiaeth o fod iddynt beidio ag yspeilio eu gilydd, dim ond prynu a gwerthu wrth eu hewyllys. Y mae lliaws o ryw rith—ddiwygwyr, mewn amryw oesoedd a gwledydd y byd, wedi ymddangos, gan amcanu gwneuthur y byd can wastated a'r geiniog; a rhai dan liw o grefydd hefyd, gan dynu rheol gyffredin oddiwrth amgylchiadau anghyffredin yr eglwys yn Jerusalem. Y mae y dynion hyn gan mwyaf wedi bod ac yn bod yn haner—cof a haner—call, a'u canlynwyr y rhan amlaf yn segurwyr, diogwyr, ac oferwyr, fel y mae'n hawdd gweled nad allant gael mwy o effaith ar ddynolryw yn gyffredinol nag ôl troed dyn ar dywod y môr: gadawant y byd yn gwbl mor anwastad ag y cawsant ef. Pwy a all unioni y peth a gamodd Duw? Gan hyny na ddyweded y tlodion wrth y cyfoethogion, Nid rhaid i ni wrthych; ac na ddyweded y cyfoethogion wrth y tlodion, Nid oes arnom mo'ch eisiau; yr ydym yn gwbl annibynol. Camgymeriad hollol: y mae gwas da mor angenrheidiol i'r meistr tir ag ydyw y tyddyn i'r tenant. Tröer gan hyny galonau y naill ddosbarth at y llall, a bydd pob peth