Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/252

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'r goreu yn y byd hwn, ag i bawb gadw ei sefyllfa; a thröer pawb at Dduw, a gwell—well am amser a thragwyddoldeb fydd eu helynt.

Bellach rhoddwn ar lawr rai o'r achosion o dlodi fel y maent yn ymddangos ini.

1. Yr achos cyntaf a enwn yw rhagluniaeth Duw, yr hon, er bod y ddaear yn llawn o'i chyfoeth, a'i bod yn diwallu pob peth byw o'i ewyllys da ef, eto nid yw yn rhanu yn berffaith wastad: rhydd fodd i bawb fwyta, ond caiff rhai ddigon, a llawer yn ngweddill. Pe buasai pawb yn gydradd, ni buasai le i haelioni, tosturi, a thrugaredd weithredu; nis gallai neb nac ymostwng i'w gilydd na chydnabod yn ddiolchgar am gymwynas a wnai y naill i'r llall, yr hyn ni buasai gymhwys mewn sefyllfa brofedig, y fath ag yw anialwch y byd hwn; yr hon sefyllfa a luniaethodd Duw i'n profi ac i wybod pa beth sydd yn ein calonau. Yn y rhagluniaeth hon y mae yr un peth yn digwydd i bawb fel eu gilydd; yr un peth a ddigwydd i'r da, i'r glân, ac i'r aflan—yn yr hon y mae cosp bai, a gwobr rhinwedd, i raddau mawr, yn anweledig; gan y gwelir weithiau rinwedd yn gystal a thlodi, a'r beiau mwyaf anferth yn ymrwysgo mewn cyfoeth—eto dyma y drefn; a threfn ydyw, ac nid annhrefn; oblegyd nid yw yr hyn sydd yn ymddangos i ni yn gam, ddim felly yn wirioneddol; na'r hyn sydd yn ymddangos i ni yn annhrefn ddim ond trefn uwchlaw ein cyrhaedd.

2. Gorthrymder sydd achos arall o dlodi; ac nis gwelir tlodi truenus yn fynych ond lle y byddo yr îs—radd yn cael eu gorthrymu. Dyna yn gymhwys sefyllfa y werin yn yr Iwerddon. Gorthrymder ysprydol y grefydd Babaidd, a thymhorol y mawrion ar yr iselradd, yw yr achos o'u tlodi yn lled gyffredin. Felly i raddau mwy neu lai mewn manau eraill. Pan y byddo annghyfartalwch rhwng pris llafur y gweithiwr, a phris angenrheidiau natur er ei gynal ef a'i deulu, y mae yn llwfrhau ac yn colli ei annibyniaeth. Y mae hyn yn digwydd yn fynych pan y mae mwy o weithwyr nag o waith.

3. Y mae y modd y cynelir y tlodion sydd yn methu byw arnynt eu hunain, trwy lunio cyfraith i'w cynal, yn lle trugaredd wirfoddol y llawn at gynorthwyo yr anghenus, yn peri i lawer o'r dosbarth isaf deimlo fod treth y tlodion, fel arian y deyrnged, mewn cyfiawnder yn