Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/256

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a weddai, a syrth i dlodi." Y mae y fath rai yn bod ag a elwid gynt, Gwrach y Cribsin; cynildeb wedi ei gario dros ei derfynau ydyw. Dywedir am wraig a aeth i geisio cawellaid o fawn, ac am fod y ffordd yn bell a'r baich yn drwm o'i hir gario, teimlodd y dylasai ddefnyddio ei baich mawn yn dra chynil; dododd hwynt ar y tân bob yn ddwy neu dair mawnen, a chymerth y fegin i chwythu y tân, a llosgodd y baich i gyd cyn berwi y pytatws; pryd y buasai chwarter y baich yn ateb y dyben pe rhoisid ef ar unwaith.

9. Prinder gwaith hefyd a gynyrcha dlodi yn dra mynych. Y mae yn olygfa annedwydd ddigon weled pobl weithgar yn methu cael gwaith. Gallai pawb iach ac o oedran cyfaddas enill rhywfaint ond cael gorchwyl at y pwrpas. Pe byddai iawn ddeall rhwng perchenogion tiroedd a'r tenantiaid, gallai fod gwaith i bob math; oblegyd nid yw tir Cymru eto wedi ei haner amaethu. Y mae llawer o ucheldiroedd da, nad ydynt yn dwyn ond ychydig heblaw grug, crawcwellt, a brwyn, y rhai nid oes ynddynt nemawr at gynhaliaeth un anifail; llawer o dir lled isel hefyd sydd ry wlyb; peth yn rhy garegog i'w aredig; drain a mieri ac eithin y gath a orchuddiant erwau afrifed o dir Cymru. Pe byddai y boneddigion oll yn gwneyd fel y gwna ambell un, sef gwario eu rhenti i wellâu eu hetfeddiaethau, byddai digon o waith am oesoedd; a phe ceid gwaith i bawb, a phawb yn gweithio, a thâl cymhesur am lafur, tybygid na byddai raid cwyno llawer oblegyd tlodi yn ein gwlad. Er nad yw rhagluniaeth yn rhoi cyfoeth ond i rai, y mae yn gwasgar ei bendithion i bawb, a mwyniant y naill a'r llall a ymddibyna lawer ychwaneg ar eu hymddygiadau nag ar eu hamgylchiadau.

10. Diffyg addysg a gwybodaeth a bair i ddynion ymostwng i dlodi, heb wneyd nemawr ymdrech yn ei erbyn. Anwybodaeth a ddarostwng ddyn, i raddau, i agwedd yr anifail, ac y mae yn fynych yn ymlithro i dlodi heb wybod iddo ei hun. Teimla gwybodaeth oddiwrth orthrymder, ac a'i gwared ei hun o'i law ef. Gorthrymwyr ysprydol a thymhorol a garant gadw y gorthrymedig mor anwybodus ag asynod, rhag iddynt anesmwytho a thaflu yr iau oddiar eu gwarau. Y mae gwarth ar dlodi a dynom arnom ein hunain, yr hyn y mae gwybodaeth yn mhob modd am ei ochelyd. Pan y mae rhagluniaeth