yn uniongyrchol yn dwyn tlodi ar y weddw a'i thwr plant, y gŵr neu y wraig yn colli eu hiechyd, un yn cael ei eni yn ddall neu anafus—y mae yn esgusodol, ac y mae awdwr ein natur wedi planu ynddi dosturi at y cyfryw wrthddrychau, fel y teimla mai dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.
Bellach, ddarllenydd, beth bynag yw dy sefyllfa, gochel duchan yn erbyn rhagluniaeth y nef, oblegyd medd diareb, "Rhaid i duchan gael y drydedd;" hyny yw, fe'th ymddifada o lawer o'r cysuron a ellit eu mwynhau yn yr un amgylchiad, ond cael tymher well. Os myni ochel tlodi, gochel yr achosion o hyny, gan gofio fod achos ac effaith yn gysylltiedig anwahanol a'u gilydd; oblegyd er nad ydwyt wedi dy rwymo i dlodi, y mae pawb yn ddiwahaniaeth yn rhwym i ddwyn canlyniadau yr hyn a wnelont. Llwm ydyw pawb sydd yn treulio mwy nag sydd yn dyfod i mewn iddynt, pa faint bynag fyddo eu cyfoeth; a llawn yw pawb sydd yn gwario llai na'u henill, pa can lleied bynag y bo. Arfer lafur cywir, cynildeb a threfniant doeth, a gwyliadwriaeth gydwybodol yn erbyn pob afrad; gochel falchder, ac ymryson, a phorthi blys; dechreu yn ieuanc ar hyn; ac un i gant y gwna tlodi i ti ddim niwed.[1]
- ↑ * Gwel" Traethodydd," Ebrill, 1849.