Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

POBL Y MAWR GAM.

Y MAE rhyw gynifer o blant dynion, yn mhob gwlad ac oes, yn tybied o leiaf eu bod yn cael y dirfawr gam, a hyny yn fwy na'u cymydogion yn gyffredinol. Gwir yw fod yn rhaid i bawb ddyoddef rhyw gymaint o gamwri tra y byddont yn y byd hwn, pa un bynag ai saint ai pechaduriaid fyddont. Cyfraith Duw a wahardd bob cam ac a orchymyn bob uniondeb, eto amlwg yw fod rhagluniaeth Duw yn goddef i'r naill o feibion dynion orthrymu ar y llall. "Gwelais ddagrau y rhai gorthrymedig," medd y gŵr doeth, a hwythau heb neb i'w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i'w cysuro.'—Edrych ar orchwyl Duw, canys pwy a all uniawni y peth a gamodd efe?" Nid oes dim yn wirioneddol gam yn ngoruchwyliaethau Duw, eto y mae llawer yn ymddangos i ni felly. Yr annhrefn a ymddengys i ni yn rhagluniaeth y Duw mawr—nid yw ond trefn allan o'n cyrhaedd ni. Ond i ni ddyfod at y pwnc, sef achos pobl y mawr gam. Y rhai hyn a dybiant eu bod yn cael cam beunydd: pan y mae y byd yn ymddwyn yn weddol tuag at eraill, ni chânt hwy ond ei waethaf. Tybiant fod y pen trymaf i'r ferfa arnynt hwy yn wastad, a bod eu gwaith yn galetach a'u gwobr yn llai na'r eiddo eraill. Os byddant yn mhlith llawer o weithwyr, byddant yn sicr o gael mwy na'u rhan o'r gwaith. Yr oedd gynt gan Mr. Fychan, o Gorsygedol, hen weithiwr a elwid Huw Cefn-y-dre, ac yr oedd yn un o'r dosbarth sydd yn cael y mawr gam. Cwynai o herwydd aml fath o gamwri, megys yn ei swydd; ond yn y cynhauaf medi, byddai Huw yn cael y grwn lletaf bob amser, nes ei fyned yn ddïareb, os cwynai rhywun wrth fedi fod ei rwn yn llydan, dywedid ei fod fel Huw Cefn-y-dre. Y mae cryn lawer o'r tuchanwyr hyn yn barod i gyhuddo y crydd, y gwëydd, a'r panwr, ac ni ddïanc neb ganddynt—siopwr na chrefftwr o ba gelfyddyd bynag y bo; neu os masnachwr neu grefftwr fydd y tuchanwr, bydd ei gwsmeriaid yn saith waeth na'r eiddo neb arall. Yr oedd hen glochydd unwaith yn