Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dygwydd bod o'r dosbarth cwynfanus. Ar gladdedigaeth y marw, cwynai ei fod yn cael llawer llai o offrwm ar yr achlysuron hyn na pherson y plwyf, a bod ei lafur ef yn llawer mwy yn tori y bedd na llafur ei feistr yn darllen uwch ei ben, a bod cau y bedd yn fwy o ffwdan o gryn lawer na chau y llyfr. Un tro aeth yr hen frawd hwn a'r gaib a'r trosol i'r efail i'w blaenllymu, a dywedai wrth y gof, A wnewch chwi drwsio y rhai hyn (arfau y plwyf ydynt), fel y byddont yn barod i dori bedd os daw arnaf byth eu heisieu, oblegyd ni fu dim achosion o'r fath yn y plwyf er's llawer dydd bellach." Y mae yn anhawdd rhoddi ar bapur y dymher gwynfanus yn yr hon y dywedai y clochydd ei neges wrth y gof, ond amlwg yw ei fod yn cwyno na buasai angeu yn llithricach ei law yn danfon hen bobl a phlant i dragwyddoldeb (parod neu anmharod) fel y caffai efe rywbeth i'w wneyd, er lleied oedd ei dâl—

"A'i gaib a'i raw fe geibiai rych."

Darparai y tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw, heb feddwl fawr fod y dyn yn fyw a ddefnyddiai yr un arfau i dori bedd iddo yntau.

Y mae aml un hefyd yn teimlo nad ydynt yn cael eu caru na'u parchu fel yr haeddant. Cwynant fod eu brodyr heb eu gweled, a bod hyn yn brofedigaeth iddynt gydol eu hoes. Os dygwydd fod pregethwr o'r dymher hon, cwyna fod ei wrandawyr yn oerllyd, yn gysglyd, ac yn anaml; fod bydolrwydd wedi ymdaenu dros wlad ac eglwys, ac nad oes bris gan y naill na'r llall ar weinidogaeth yr efengyl. Tebyg yw fod aml un yn yr Ysgol Sabbathol yn teimlo ei fod yn cael cam na buasai yn arolygwr arni er's llawer dydd, a bod aelodau cyffredin yn yr eglwys weithiau i'w cael yn teimlo pe cawsent gyfiawnder y buasent yn flaenoriaid er's rhai blynyddau. Gall fod eraill hefyd yn teimlo mai rhagfarn, gorthrymder, a cham, yw yr achos na buasent hwythau yn y pulpud yn mhell cyn hyn. Ymddengys fod ambell un yn teimlo yn dost, ac yn achwyn yn dost, ar eu cydgreaduriaid yn galed, am nad ydynt yn foddlawn i gymeryd eu golygiadau hwy fel rheol anffaeledig i'w ffydd a'u hymarferiad yn mhob dim. Teimlant eu hunain yn goddef cam, am na osodai dynolryw hwynt yn nghader anffaeledigrwydd yn Rhufain,