Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/260

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y naill ar ol y llall. Yn awr, gan fod yn eglur mai yn ansawdd y meddwl y mae prif achos y duchanfa hon, a'i bod yn anffawd y dynion hyn yn gystal a'u bai, ni a gynygiwn at y feddyginiaeth; ac

Yn gyntaf, Gocheled y cyfryw yspryd hunanol y rhai sydd a'u serch arnynt eu hunain, gan hòni hawl i fwy nag sydd ddyledus oddiwrth Dduw na dynion, ac yn barod i gondemnio pawb am na chydnabyddent eu hawl; oblegyd ped ai yr yspryd hunanol a thuchanllyd hwn i'r nef ei hun, i blith y cyfiawnion eu hunain, gellid dysgwyl ei glywed yn cyhuddo Noah, Daniel, a Job, o wneyd rhyw gam âg ef; ac ni ddïangai Moses a'r prophwydi ddim. rhagddo,—barnai yr hwn sydd gyfiawn odiaeth yn annuwiol.

Yn ail, Ystyrier nad yw y cam yn wirioneddol oddieithr yn anfynych iawn. Nis gallai fod grwn Huw y lletaf bob tro, ac nid oedd rheswm i'r hen glochydd ddysgwyl cymaint tal a'i feistr, am nad oedd ei ddygiad i fyny wedi costio ond tipyn mewn cymhariaeth i weinidog y plwyf. Anwybodaeth ac anystyriaeth a barant i ddynion dybied eu bod yn cael cam pryd na byddont. Clywsom am deiliwr, yr hwn oedd yn byw yn swydd Ceredigion, er's yn agos i gan' mlynedd yn ol—yr oedd y tê y pryd hyny yn bur annghyffredin—clywsai Jack (oblegyd felly y gelwid y teiliwr) son am y tê er's cryn dro, ond nid oedd erioed wedi gweled nac archwaethu dim o hono; ond am fod Jack yn arfer cael bara càn, a chroesaw yn mhob tŷ, aeth yn hoff ddanteithion, a charai amrywiaeth ac amheuthyn; ond yr oedd y tê o hyd yn ddyeithr iddo. Ac wedi hir ddysgwyl, cafodd ei wahodd i dŷ gwraig barchus, o fewn cylch ei gydnabyddiaeth, i weithio iddi ar ei grefft fuddiol a pharchus fel teiliwr. "Wel, hon a hon," ebe fe wrth ei wraig, "fe gaf finau dê: yr wyf yn myned i weithio at Mrs. hon a hon, o'r fan a'r fan, ac y mae hi yn yfed tê." "Cawn glywed," ebe y wraig. Pa fodd bynag, daeth yr amser i Jack fyned at ei job; ac wedi darfod, dychwelai at ei wraig. "Wel, Jack, a gefaist ti dê?" ebe hi. "Do," meddai Jack, yn edrych yn lled siomedig, "mi gefais dipyn o ddwr oddiarno; ond mi gymerodd y wraig dda ddigon o ofal am gadw y dail iddi ei hunan." Ac, meddwch chwi, wŷr a gwragedd Cymru, onid oedd y teiliwr yn achwyn heb achos? Oni