Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei feddwl, ni fynem i neb dybied nad oedd yn teimlo, ïe, yn teimlo yn ddwys a difrifol. Yr adnod a fu yn gynhaliaeth iddo yn adeg ei droedigaeth oedd, "Canys. meirw ydych, a'ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw." Y mae yn anhawdd peidio a theimlo rhyw gysegredigrwydd at yr adnodau hyny y mae rhai wedi cael eu bywyd trwyddynt mewn argyhoeddiad. Digwyddasom fod yn agos i'r fan lle yr aeth y Royal Charter yn ddrylliau, yn fuan ar ol hyny, pryd y boddwyd rhai cannoedd o deithwyr oedd ar ei bwrdd. Ond fe gafodd nifer bychan eu bywyd trwy iddynt allu cyrhaedd y làn ar hyd rhaff a daflwyd iddynt ; a gwelsom ddarnau o'r rhaff hono yn cael eu cadw yn ofalus, er coffadwriaeth am y waredigaeth a gafwyd trwyddi. Felly y teimlir tuag at yr adnodau hyny y cafodd trueiniaid eu bywyd ynddynt, fel ag i allu ffoi rhag yllid a fydd. A hon ydyw hen adnod Richard Humphreys, "Canys meirw ydych, a'ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw."

Bu am o gylch blwyddyn "yn cloffi rhwng dau feddwl," a chymerodd lawer o bwyll i ystyried gyda pha un o lwythau yr Arglwydd y byddai goreu iddo fwrw ei goelbren. Byddai yn myned rai gweithiau i'r Cutiau, gerllaw yr Abermaw, i wrando yr Annibynwyr, yn ystod y flwyddyn hon; ac wrth ei weled yn myned mor bell, yr oedd llawer wedi meddwl mai Annibynwr a fyddai. Ond o'r diwedd gwnaeth ei feddwl i fyny ar y ddau beth: dewisodd yr Arglwydd yn Dduw iddo, a'i eglwys yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd yn gartref; ao ni bu edifar ganddo. Wedi iddo wneyd y penderfyniad hwn, yr oedd un peth wed'yn y teimlai radd o bryder yn ei gylch, sef myn'd i'r seiat y tro cyntaf. Galwodd gyda'i ewythr, Griffith Humphreys—yr hwn oedd yn un o hen flaenoriaid y Dyffryn—gan lawn fwriadu myned gydag ef y noson hono; ond er ei fawr dristwch nid oedd yr hen flaenor yn myned y tro hwnw, ac aeth Richard Humphreys yn ol heb amlygu ei fwriad iddo. Aeth mis heibio cyn iddo wneyd ail gais, ac yn ystod yr amser hwn fe ddaeth W. Richard, Tyddyn-y-pandy-yr hwn a fu yn flaenor ffyddlon yn y Gwynfryn, ac wedi hyny yn Llanbedr, byd nes y lluddiwyd ef gan farwolaeth barhau i wybod am y trallod yr oedd ynddo. Galwodd gydag ef, ac addawodd fyned ag ef i'r cyfarfod eglwysig y noswaith nesaf. Aeth