Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

William Richard oddicartref y diwrnod yr oedd yr eglwys i ymgyfarfod, ond ymdrechodd ddychwelyd mewn amser i allu cadw ei air â Richard Humphreys. Erbyn teithio yn ol i'r Dyffryn yr oedd William Richard yn teimlo yn rhy flinedig i fyned i'r capel; ond galwodd gyda Richard' Humphreys, yn ol ei addewid, ac aethant ill dau yn nghyd; ond ni awgrymodd William Richard nad oedd am fyned i'r cyfarfod. Erbyn iddynt fyned at y capel, cawsant fod y cyfarfod wedi dechreu; agorodd William Richard y drws, a daliodd ef yn agored nes i Richard Humphreys fyned heibio iddo; aeth yntau allan, gan dynu y drws yn ol, a dywedai wrtho ei hun, "Dyna fo, mi wneiff yn burion bellach." Felly gadawyd Richard Humphreys yn unig o ran William Richard, a llawer gwaith y dywedai wrtho, "Mi wnest di, William, dro digon sal â mi." Ond chwareu teg i William Richard, gwyddai ei fod yn ei ddanfon i aelwyd gynes, a bod yno frodyr anwyl i'w ymgeleddu, ac yn eu plith yr oedd y diweddar Barch. Daniel Evans— "ŵr anwyl" —yn bregethwr ieuangc, yr hwn oedd yn cadw ysgol yn y gymydogaeth ar y pryd. Y mae yn rhaid fod yn dda gan yr eglwys fechan gynnulledig yn hen gapel y Dyffryn gael dyn ieuange o gymeriad Richard Humphreys i'w plith; ac yr oedd yn dda iddo yntau gael cartref iddo ei hunan mewn eglwys lle yr oedd hen frodyr profiadol a ffyddlon i ofalu am dano.

Sylwa un wrth son am ddychweliad Richard Humphreys at grefydd fel hyn:" Y mae dynion craffus yn ein dysgu fod y moddion y mae yr Ysbryd Glân yn ei fendithio er dychwelyd pechadur at Dduw yn gadael eu heffeithiau neillduol ar y dychweledig dros ystod ei oes. Os trwy foddion cyffrous yr effeithir ei droedigaeth, ond odid na fydd gan fygythion a rhybuddion y Beibl fwy o effaith ar y cyfryw na dim arall; a phan y caiff ambell i wledd ar yr Aberth mawr, yn ngodreu mynydd Sinai y bydd yn ei chael bron bob amser.' Ac y mae yn cyfeirio at hanes troedigaeth y diweddar Barch. John Williams, Llecheiddior, er dangos hyn. Ei ddychrynu gan daranau a mellt a gafodd ef at Fab Duw, a byddai byth wed'yn am arwain ei wrandawyr at yr un golygfeydd dychrynllyd. Ond am Richard Humphreys, fel y sylwasom yn barod, yr olwg ar dynerwch a daioni Duw a'i denodd ef ato, ac y mae vn ddiamheu mai dyna y rheswm dros mai ceisio