Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/262

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'w elynion, bob yn dipyn, fod yn heddychol âg ef. Yn ddrwg, fel y mae y byd, eto fe gydnabyddir "rhai llariaidd y ddaear, a rhai llednais y tir," a pharchedigaeth, y rhai geirwir a gonest âg ymddiried, a'r doeth a'r gwybodus ag ymostyngiad. Y mae rhyw gyfiawnder ofnadwy a thragwyddol yn bod, yr hwn y mae dynolryw mewn rhyw fodd a rhyw raddau yn ei deimlo yn eu gorfodogi i dystiolaethu y gwir. Cafodd Cromwell gam dirfawr gan lawer o'i gydoeswyr, a'r oesoedd canlynol;cyfrifid ef yn ormeswr mewn llywodraeth, ac yn rhagrithiwr mewn crefydd; ond yn ein dyddiau ni y mae haneswyr o'r talentau dysgleiriaf yn rhoddi iddo ei wir gymeriad—talant iddo yr eiddo ei hun gyda llôg. Yr Arglwydd Iesu hefyd, pentywysog a pherffeithydd ein ffydd, cafodd yntau ei gamgyhuddo, ond ni lynai ei gamgyhuddiadau wrtho; y mae ei garacter nid yn unig yn uchel, ond yn berffaith, a bydded ei elynion yn farnwyr. Yn fuan, fuan, fe ddaw y Barnwr cyfiawn i sefyll uwch ben ein hachos, a gallwn fod yn berffaith ddiofal na chawn gam oddiar ei law—bydd barn wrth linyn a chyfiawnder wrth bwys. "Yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth, ac nid oes derbyn wyneb. Canys cyfiawn yw ger bron Duw dalu cystudd i'r rhai sydd yn eich cystuddio chwi; ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef gyda'i angelion nerthol."<ref>Gwel "Traethodydd," Ionawr, 1852,