YR HEN BOBL.
DYN ydyw dyn yn holl dymorau ei oes. Ceir gweled prif ddeddfau ei natur yn gweithredu o'i febyd i'w fedd. Câr ei ddedwyddwch ei hun, a chymeradwyaeth ei gydddynion, gydol ei daith trwy byd. Y mae yn wir er hyny fod rhyw bethau yn fwy tueddol iddo yn blentyn, a phethau eraill yn ganol oed; ac odid, os gwel ddyddiau henaint, na bydd ganddo deimladau gwahanol i'r hyn oedd ganddo yn nechreu a chanol oes. Efallai nad yw y rheol hon heb ryw gymaint o eithriadau iddi fel rheolau cyffredinol eraill. Gwelir weithiau fachgen yn synied ac yn teimlo fel dyn mewn oed, ac ambell henafgwr yn parhau yn ieuengaidd ei yspryd, ac yn cydgerdded â'r oes bresenol, er fod ei gyfoedion naill ai yn y bedd neu fel y llong y mordwyai Paul ynddi i Rufain, pen blaen yr hon a lynodd ac a safodd yn ddiysgog, nes i'r pen ôl ddattod a myned yn chwilfriw.
Hawdd gan henaint erioed feio ar yr amser presenol, ac megys yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon. Gellir barnu oddiwrth eu cân fod y byd yn myned yn waeth bob oes wedi y dylif. Mae hyd yn nod natur ddifywyd yn newid er gwaeth. Nid yw yr hîn càn deced,' medd yr henŵr, a phan yr oeddwn i yn ieuanc. Byddid y pryd hwnw yn gollwng yr ychain am oriau lawer ganol dydd wrth hau haidd yn niwedd Ebrill a dechreu Mai: a phrin y gellid codi eu penau o'r glaswellt gan y tyfu yr oedd y braenar; ond yrŵan, y mae yn oer ddigon bymthegnos o hâf.' Un o'r hen dadau hyn a ddywedai fod cyfnewidiadau rhyfedd yn cymeryd lle yn y byd, fod y bobl yn y dyddiau hyn yn siarad yn îs, yn cerdded yn gyflymach, ac yn bwyta yn gynt; a bod y cerig yn drymach; ac hyd yn nod y tân,' meddai, mae yntau yn altro; mae yn llawer oerach na phan oeddwn i yn fachgen.' Gwaith ofer yw dywedyd wrth y gwŷr hên, sydd o flaen y tŷ,' mai ynddynt hwy y mae y cyfnewidiad, sef eu bod wedi colli y gallu i fwynhau pethau fel y buont gynt; nad oes ganddynt