Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/265

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cwmni yr oedd ef yn eistedd yn benaf yn eu mysg a phe buasai yn eu gwybod yn drwyadl.

Yr oedd, pa fodd bynag, yn barnu fod doethineb wedi marw gyda'r hen bobl, heblaw oedd yn aros ynddo ef; ac fe dyngai nad oedd nac areithwyr na phrydyddion yn awr fel cynt; a bod adfeiliad a malldod ar bob peth yn mhob man, o'r orsedd i'r bwthyn. Pa le,' meddai, 'y mae swyddogion gwladol fel Fox a Pitt? Ac am brydyddion, y mae yr oes wedi myned yn ei gwrthol tu hwnt i fesur. Pa le y cewch neb yn y dyddiau hyn cyffelyb i Goronwy Owen o Fôn, a llawer o'i flaen; ac nid hwyrach un neu ddau ar ei ol?' Dywedai ambell un wrtho, Onid oedd Dafydd Ionawr, awdwr Cywydd y Drindod, yn fardd campus, ac yn gwario ei dalent ar y goreu? A pheth am Dewi Wyn, y bardd o'r Gaerwen, awdwr yr Awdl ar Elusengarwch, ac Englynion Pont Menai, a llawer o gyfansoddiadau eraill, nerthol a chyffrous? Llewyrchodd y rhai hyn, a llawer eraill yn fy oes i, ac y mae yn fyw brydyddion campus.' 'Lol i gyd,' ebe yntau, nid oes genych farn am brydyddiaeth, onide ni siaradech fel yna. Mae yn wir ddarllenais i mo waith y prydyddion a enwasoch; oblegyd nid ydynt yn werth eu darllen, mwy na bagad o'u cyffelyb sydd yn rhyw rigymu yn y dyddiau hyn. Mae un linell o waith Goronwy Owen yn werth y cwbl. Prydyddion, yn wir, yn yr oes yma! na choeliaf fi, na dim yn debyg chwaith. Ni waeth i chwi un gair na chant; mae gogoniant Prydain yn ymadael.' Ond, fy hen gâr,' meddai rhywun, gadewch i hyny fod; y mae celfyddyd yn myned rhagddi yn hynod. Y mae llawer peth y gellir dywedyd am dano, Edrych ar hwn dyma beth newydd.' Ho, mi welaf eich bod yn cyfeirio at yr agerdd-longau, agerdd-gerbydau ar y ffyrdd haiarn, a'r cyffelyb bethau. Rwy'n dyweyd yn hyf mai melldith gwlad a thref yw y pethau hyn oll. Siaradwch chwi am lestr agerdd os mynwch; ond rhowch i mi long dda, a hwyliau da arni, a gwynt teg, a mawr dda i chwi ar eich llongau tân, hefo eu boilers mawrion, yn y perygl o dori a chwythu pawb i ddinystr bob mynyd. Ac am y ffyrdd haiarn, nid oes i mi a wnelwyf â hwynt, mwy na'r agerdd longau. Cefn y ffordd fawr i mi, cerbyd a cheffylau, tafarndai yma ac acw ar bob llaw, tròlyn o goachman gwridgoch, a chàn dewed a'r facrell, y guard a'i gornet a'i chwibanogl, a'r ddau càn