Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/266

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hapused a phe baent dywysogion. Steam Coaches yn rhodd! pwy a all ymddiried nad allent redeg eu gilydd, a dryllio naill y llall càn faned ag y gallai yr hen wragedd glywed arnynt hel y coed i fyned adre i ferwi y tea—kettle; heblaw yr enbydrwydd y sydd i'r teithwyr gael dryllio eu holl esgyrn, a chwythu aelodau rhai o honynt i fyny i'r cymylau yn ddisymwth fel mellten? Dywedir hefyd eu bod yn teithio mor gyflym ag y bydd y maesydd a'r coedydd yn ymddangos yn troi fel chwrligwgan. Pa gysur yw teithio fel hyn? Ni bum i mewn steam coach erioed, ac nid âf yn fy oes. Gwaith ffol i'r oes hon fostio o'i steam, ni ddaw dim daioni oddiwrtho fo beth bynag.' 'Ond, syr,' ebe un wrtho, 'bernwch fod teithio fel hyn yn beryglus, eto, gan ei fod yn gyflym, mae yn dwyn y dynol deulu yn nes at eu gilydd, ac y mae dynolryw drwy hyny yn llyfnhau rywfaint ar eu gilydd fel ceryg yr afon wrth ymrwbio y naill yn y llall.' Syr,' ebe yntau, 'nis caniatâf fi fod unrhyw ddaioni yn cael ei wneyd trwy hyny. Gwir ein bod yn cario ein gwareidd-dra i blith cenhedloedd anwar; ond yr ydym yn cario ein drwg arferion a'n hafiechyd hefyd i ganlyn hyny, fel y mae yn anhawdd dywedyd a ydynt ronyn gwell gyda ni nag hebddom ni. Cyn ein dyfod, yr oeddynt yn rhydd, yn gryfion, ac yn iach; ac nid oedd arnynt ond ychydig eisieu; a'r peth mwyaf a wnawn ni yw gweithio angen i'w natur ar nad oedd o'r blaen. Ac wedi hyny, maent yn methu diwallu yr anghenion gwneuthuredig; a thrwy hyny, maent yn cael eu gwneyd yn fwy truenus. Na; gwell iddynt ein lle na'n cwmni.' Ddarllenydd, y mae yr hen frawd hwn wedi marw er ys tro bellach, ond y mae llawer o'i gyffelyb eto ar y ddaear.

Nid yw y gyfrinach a berthyn i'r dymher hon yn anhawdd ei chael allan. Sonia ein hen gyfeillion am lygredigaeth yr oes, a chymerant yn ganiatâol na lygrasant hwy i ganlyn yr oes; a disgwyliant fod eraill yn synied yr un peth. Y mae hunanoldeb y natur ddynol yn ddeddf gref, ac ni bydd farw yn yr hen ŵr heb i ryw egwyddor well ei threchu; ac yn wir, er ei marweiddio, y mae heb farw yn y goreu o ddynion tra byddont byw. Yn nyddiau henaint, y mae dynion yn gadael yr esgynlawr lle y mae llawer math o orchestion, ac oddiar lawr edrychant i fyny gyda rhyw gymaint o ragfarn, mwy neu lai, wrth fel y maent yn bleidiol i'w cyflawniadau eu hunain. Mae