Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/268

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dadau, a'u gwenidogaeth nerthol a gwlithog. Ond paham y gwneir hyny er diraddu y rhai sydd yn fyw? Nid yw hyny ond moli y sawl a fu ar draul y rhai sydd. Rhoddodd Duw i'n tadau at eu hamser hwy, ac atebodd y dyben mewn gradd helaeth; a hyderwn ei fod yn rhoddi yn ein dyddiau ninau genadwri addas i'r amgylchiadau presenol. Ar yr un pryd, pell ydym oddiwrth feddwl nad oes arnom wir angen am ychwaneg o ddawn ac yspryd y weinidogaeth; ac O! disgyned graddau eraill o'r eneiniad oddiwrth 'y Sanctaidd hwnw' ar ei weinidogion yn y dyddiau hyn, i wybod pob peth a berthyn i waith eu tymmor hwy! Troër hefyd galonau y tadau at y plant, fel trwy hyny y troër calonau y plant atynt hwythau, rhag i ni gael ein taro â melldith, o eisieu rhodio mewn cariad y naill tuag at y llall.

O! Mor hyfryd yw gweled henafgwr wedi ei goroni â gwallt gwyn yn ngwasanaeth ei Arglwydd, ac wedi ei ddigoni a hir ddyddiau, yn dirf ac iraidd yn ei henaint, ac yn blodeuo eto yn nghynteddau ein Duw ni, ei fronau yn llawn llaeth i'r rhai ieuainc, â'i esgyrn yn iraidd gan fêr. Cofiwch, henaint, pa faint bynag yw y cyfnewidiadau y sydd, ac er fod rhai pethau fe allai er gwaeth, fod Duw yr un. 'Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd.' Ni bu yr efengyl erioed yn fwy gogoneddus ynddi ei hun nag ydyw heddyw. Y fraint o wasanaethu Duw sydd lawn cymaint ag erioed, a pho hwyaf y byddom byw, mwyaf yw ein dyled iddo.

Hen frawd, a hen chwaer! deuwn ninau yn lled fuan i'ch plith, os arbedir ein bywyd ond am ychydig o flynyddoedd. A chyfarfod da i ni. Yn y diwedd ein gollwng a gaffom mewn tangnefedd, a'n llygaid yn gweled iachawdwriaeth Duw.[1]

  1. Gwel "Traethodydd," Gorphenaf, 1845.