Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/269

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y BOBL IEUAINGC.

CLYWSOM ddywedyd gan y rhai gynt, "Unwaith yn ddyn a dwywaith yn blentyn." Enillodd y wir ddiareb hon, fel eraill o'i chyffelyb, gydsyniad dynolryw, yn unig am ei bod yn cynwys gwirionedd digon eglur i dynu sylw pawb sydd yn edrych i bethau, heblaw arnynt. Ond nid yw yn canlyn fod dyn unwaith yn ŵr, a dwywaith yn ddyn ieuangc. Nac ydyw : ni fwynheir ac ni threulir y tymhor hwn, mwy na chanol oes, onid unwaith. Pa beth bynag sydd o werth, ac nad oes onid un cynyg arno, y mae o bwys gwneyd y goreu o'r cyfryw amgylchiadau, pa bryd bynag eu cyfarfyddom. Dyddiau ieuengctyd sydd yn un, ac yn un pwysig, o'r amgylchiadau hyn; oblegyd y mae ieuengctyd yn cymysgu a berwi cawl yn moreu eu bywyd yr hwn a bâr rhagluniaeth fawr y nef trwy ddeddf dragwyddol iddynt yfed o hono yn nghanolddydd a phrydnawn eu hoes, pa un bynag a fydd at eu harchwaeth ai peidio. Cyweirio eu gwelyau y mae y rhai ieuaingc hyn, a hwy raid orwedd ynddynt. Dyma dynged pob math ar ddyn, ac nid oes ymwared. Mae chwantau a nwydau y natur ddynol ar ol y cwymp yn dyfod i'w grym flynyddoedd o flaen rheswm a barn; a'r lle y mae y nwydau a'r tueddiadau yn llywodraethu, yr hyn nad amcanwyd hwynt iddo, odid dan y cyfryw amgylchiadau y gweithreda na rheswm na barn yn ddiduedd, nac i ateb un dyben daionus; oblegyd dan lywodraeth chwant pa bynag, mae gwirionedd yn cwympo yn yr heol, ac ni chaiff barn na chyfiawnder ddyfod i mewn. Dichon hefyd fod tuedd. gref mewn dyn ieuangc yn enwedig, yn ddiarwybod iddo ei hun; megys pan y mae dyn mewn neu ar ben cerbyd ag sydd yn symud yn ol ugain milldir yn yr awr, y mae ysgogiad yn ei gorph a barai fod neidio o'r cerbyd ar y pryd yn dra enbyd, rhagor pe buasai y cerbyd yn llonydd: ond nid yw dynion yn gyffredin yn teimlo hyn. Felly yn gymhwys, gall fod ffrydiau natur yn rhedeg yn gryfion iawn, yn ddiarwybod i'r dyn sydd yn myned gyda'r lli. Yn awr gan hyny, gan fod y pethau hyn felly, efallai na