Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/270

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chymer y dosbarth hwn o ddarllenwyr y "Traethodydd" (nid amgen yr ieuengctyd) yn anngharedig arnom nodi rhai pethau yn eu natur sydd yn gwneuthur y rhan hon o'u taith yn fwy peryglus nag un ran arall o dir eu hymdaith.

Yr oedd hen ddysgybl yn nghymydogaeth y Bala, a elwid Abram y Ceunant, yr hwn oedd hynod am uniondeb mewn egwyddor a gweithred. Ar ryw foreu teg yn y cynhauaf, aeth Abram i roi help llaw i gymydog parchus ganddo; ond troes y boreu teg yn brydnawn gwlawog; ac mor gymeradwy oedd yr hen frawd, ac mor anmheuthyn ei ddull a'i ddawn, fel y mynai y teulu iddo gadw addoliad teuluaidd ganol dydd. Wedi diolch am adferiad iechyd y wraig, a gweddïo am estyniad iechyd a hir oes i'r gŵr a'r wraig, yn gystled ag am ras ac arweiniad Yspryd Duw iddynt lanw lle penteulu, erfyniai am i'r Duw mawr gadw y plant rhag cael niwed trwy demtasiynau y diafol, "yn enwedig," ebai Abram, "y rhai sydd o bymtheg i bump-ar-hugain oed—amser gwan ar ddyn, ti wyddost Arglwydd." Tybiem fod ein tad Abram yn hyn yn good authority, yn gymaint a'i fod yn effaith sylw manwl a maith; oblegyd yr oedd Abram y pryd hwn yn oedranus, ac yn llefaru aith natur mor anmhleidgar ag un dyn wedi y dylif. Yr oedd meddwl drwg am ei gymydog, neu draethu gweniaith wrtho, can belled oddiwrth Abram ag yw y dwyrain oddwrth y gorllewin. Ond, ieuengctyd, os nad ydych yn teimlo eich hunain yn cydsynio yn rhwydd â chyffes yr hen Gristion hwn, ond yn barod fel y goludog i ddywedyd, "Nage, y tad Abraham;" y mae yn rhaid i ni gael lleferydd rhywrai o blith y meirw, onide nis credwn ddim. Wele, attolwg, ieuengetyd, wrth bwy ac am bwy y llefarai Solomon, y doethaf o'r holl ddynion, yn y chweched a'r seithfed o'r Diarhebion? "Fy mab, cadw orchymyn dy Dad, ac nac ymâd â chyfraith dy fam. Canys canwyll yw y gorchymyn, a goleuni yw y gyfraith, a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg; i'th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddyeithr. Na chwenych ei phryd hi yn dy galon; ac na âd iddi dy ddal â'i hamrantau." Eilwaith: " Canys a mi yn eistedd yn ffenestr fy nhŷ, mi a edrychais trwy fy nellt, a mi a welais yn mysg y ffyliaid, ïe, mi a ganfum yn mhlith yr ieuengctyd, ddyn ieuangc heb ddeall ganddo, yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac wele fenyw yn cyf-