Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/271

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arfod âg ef, a chanddi ymddygiad putain—hi a ymafaelodd ynddo, ac â'i cusanodd ef, ac âg wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho fod arni aberth hedd, heddyw y cywirais fy adduned"—dernyn o'r rhagrith perffeithiaf a draethodd un santmantes er dyddiau Adda. Modd bynag, "Hi a'i troes ef â'i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau y cymhellodd hi ef; ac efe a'i canlynodd hi ar frys, fel yr ŷch yn myned i'r lladdfa, neu fel yr ynfyd yn myned i'r cyffion i'w gosbi; hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef, fel yr aderyn yn prysuro i'r fagl, heb wybod ei fod yn erbyn ei einioes ef." Anerchiad arall a gyfeirir atoch chwi yn uniongyrchol gan frenin Israel: "Fy mab, os pechaduriaid a'th ddenant, na chytuna. Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddïachos; nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr; ni a lanwn ein tai âg yspail: fy mab, na rodia y ffordd gyda hwynt, attal dy droed rhag eu llwybrau hwynt." Unwaith eto, y brophwydoliaeth a ddysgodd mam un gŵr ieuangc iddo, "Na ddyro i wragedd dy nerth, na'th ffyrdd i'r hyn a ddifetha freninoedd. O Lemuel, nid gweddaidd i freninoedd yfed gwin, nac i benaduriaid ddiod gadarn; rhag iddynt yfed ac ebargofi y ddeddf, a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig." Onid yw yr Ysgrythyr Lân mewn amryfal fanau yn cyfeirio at ieuengctyd yn uniongyrchol? A phaham? Onid am fod eu perygl yn fwy yn y pethau hyn a nodwyd ? Yn awr, gan hyny, O, feibion a merched ieuaingc, gwrandewch arnom, ac ystyriwch eiriau ein genau, pan y traethom am rai pethau yn eich natur ag sydd yn eich gosod mewn perygl nid bychan. Nid i'ch gwaradwyddo y dywedir dim. Nage. Ni a fuom ieuaingc, ac yr ydym yn hen, ond yn cofio y temtasiynau a fu arnom pan yn eich oedran chwi. Buom o fewn ychydig at bob drwg yn nghanol y gynulleidfa a'r dyrfa yr ydych chwithau ynddi.

Yn gyntaf oll, gan hyny, Gochelwch dybied fod genych ryw dymhor maith o amser yn y byd, fel y galloch ei wario yn ofer. Ystyriwch ei fod yn werthfawr, ac nad oes dim o hono i'w gamdreulio. Y mae dyn ieuangc yn dueddol i feddwl fod pedwar ugain mlynedd bron cyhyd a thragywyddoldeb. Cafodd ei hun yn y byd, fel wedi dyfod o'r niwl, heb nemawr o feddwl pa bryd y cafodd fod; ond wedi treulio