Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/272

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blynyddoedd meithion, tybygai efe, yn ei fabandod, y mae yn cael tystiolaeth sicraf ei dad a'i fam nad yw eto ond deg oed. Y mae y deg, ïe, y pymtheg, mlynedd cyntaf o dymhor dyn ar y ddaear yn ymddangos yn llawer meithach nag ydynt mewn gwirionedd. Ac nid yw dyn yn teimlo nac yn synied yn gywir am fyrder ei oes nes iddo dreulio yn fyfyriol bymtheng-mlynedd-ar-hugain o honi; ac yna gwel, os na bydd fel march neu ful heb ddeall, ei fod eisoes wedi cyrhaedd tua haner y ffordd, os nid ychwaneg; a theimla nad yw y pymtheg-ar-hugain nesaf ddim hwy; y rhai, os bydd i ddyn eu cyrhaedd, a'i gwnant yn hen ŵr; ac y mae yr ieuangc yn sicr o ysgrifenu y titl hwn uwch ben ei holl achos yn Hebraeg, Groeg, a Lladin, neu ryw iaith arall.

Yn ail, Y mae ieuengctyd yn gyffredin yn chwanog i redeg i eithafion peryglus gyda phob peth a ddygwydd fod yn wrthddrychau eu hymofyniad. Fel y lloi ar galanmai, newydd ddyfod allan o'r beudy, heb weled nac wybr na daear, ond a oedd o'u polyn hwy at bolyn eu mam; ond yn awr dyma y maes mawr o'u blaen, a'r dydd goleu teg i gampio a chwareu ynddo. Mae yr olygfa yn berffaith newydd; ond y mae terfynau iddynt i bori o'i fewn, ac nis gallant fyned trwy y gwrychoedd a thros y cloddiau, ond dan berygl o dori eu cymalau; hwythau, er eu bod yn gweled, nid ydynt yn defnyddio bron ddim ar y synwyr hwnw, fel ag i wybod pellder unrhyw wrthddrych yr edrychant arno. Felly y dyn ieuangc, y mae yn agor ei lygaid ar y byd mawr llydan, lle y mae gwrthddrychau heb rifedi, bychain a mawrion. Cyfoeth, parch, a phleserau y byd a dynant ei sylw. Sylla arnynt heb wybod pa un i'w ddewis. Ond cymaint yw ei frys a'i awyddfryd, fel nad erys yn hir yn yr esgoreddfa hon, a dacw ef nerth ei garnau ar ol pleser y byd; ac nid yw yn gweled y terfynau a osododd Duw i'w fwyniant, y rhai nad â neb drostynt ond ar ei golled. Ac felly dan boen a pherygl o dori ei esgyrn, y mae yn myned tros y terfynau, heb wybod y canlyniad. Am na wneir barn ar yr anferthwch yn fuan, y mae calon yr oferddyn ieuangc yn llawn ynddo o awydd i fwyniant; ac ni chymer amser i ystyried pa un ai cyfreithlawn ai annghyfreithlawn. Ond

"Cymerwch gynghor, ie'ngctyd ffol,
Mae tragwyddoldeb maith yn ol !"