Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/273

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ystyriwch fod gormod o'r hyn sydd angenrheidiol yn ddrwg. Cofiwch fod diareb yn dyweyd, "Gormod o ddim nid yw dda.”

Doethineb, medd Solomon, a arwain ar hyd ffordd cyfiawnder, ar hyd canol llwybrau barn. Eithafion ydynt yn gyffredin yn bechadurus; ac nid oes ond ychydig o feiau nad ellir canfod mai pethau cyfreithlawn wedi eu cario tros eu terfynau ydynt. Felly y gwelwn gyfeiliornwyr y byd yn cario rhai gwirioneddau tros eu terfynau priodol fel na bydd lle i wirioneddau eraill yn eu credo; am hyny gwrthodant a gwadant hwynt er eu bod yn rhanau eglur o'r Dadguddiad dwyfol, a bod cymaint o eisieu eu dylanwad ar y meddwl âg unrhyw wirioneddau eraill.

Yn drydydd, Y mae yr ieuaingc yn dra chwanog i roddi uchelbris ar bob peth newydd, gan gymeryd yn ganiataol fod pob newidiad yn ddiwygiad. Tybiant fod y byd wedi myned yn ddoeth o'r diwedd, ond nad yw ond newydd fyned. Anhawdd ganddynt gydnabod fod gwybodaeth mewn hir ddyddiau, a bod henafgwyr yn deall barn. Fel y brenin Rehoboam, gwrandawant ar gynghorion y gwŷr ieuaingc, gan wrthod cynghor yr henafgwyr oedd yn nyddiau ei dad ef. Anhawdd cael ganddynt gydnabod gwirionedd yr hen-air a ddywed, "Yr hen a ŵyr, a'r ieuangc a dybia." Y mae lliaws o bethau mewn bri am dro fel pethau newyddion, y rhai yn y dyddiau a ddaw a ollyngir dros gof, am nad oes ynddynt y cyfryw werth ag a dalai am eu cadw mewn cof ac ymarferiad. Pell ydym oddiwrth feddwl fod newydd-deb unrhyw beth yn ddigonol achos i'w daflu o'r neilldu, heb ei brofi; ond ni wna brawf o'i ddefnyddioldeb chwaith. Nid oes dim ond amser a barn a rydd brawf; ystyr barn a genfydd duedd y peth, ac amser a ddengys ei effeithiau.

Yn bedwerydd, Y mae tuedd gref mewn dyn ieuangc i obeithio gormod am ddaioni yn y byd hwn, yr hyn sydd yn arwain i siomedigaeth. O! y mae yr ieuengctyd yn llawen iawn mewn gobaith, ond y mae y canol oed a'r henaint yn ddifrif wedi eu siomi, am obeithio yn ddisail pan yn moreu eu hoes. Y bachgen a dybia, pe byddai wedi tyfu i fyny, y byddai mor hapus ag Adda yn Mharadwys; a thybia y llangc, pe byddai wedi myned i'r ystâd briodasol, na byddai ond ychydig yn fyr o ddedwyddwch y nefoedd