Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/274

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei hun; pan mewn gwirionedd na wneir ond newid un rhyw o ofidiau am y lleill; ffeirio rhai profedigaethau am rai eraill llawn mor ofidus, er hwyrach nad mor niweidiol. Clywsom am un yn myned i briodi, heb ganddo ddigon i dalu i'r person a'r clochydd; aeth at gymydog i ofyn am fenthyg deunaw; dywedodd fod ganddo ry fychan i dalu am ei briodi, ond ei fod yn gobeithio na byddai arno ddim eisieu arian byth ond hyny. Mae yn ddigon clws gweled y natur ddynol mor obeithiol, yr hyn sydd dros yr amser presenol mor hyfryd; ond y mae y siomedigaeth ddyfodol yn anhyfryd pan y delo. Pa fodd bynag, tra angenrheidiol i ddedwyddwch yw peidio gobeithio yn ddisail, a chadw y dymuniadau o fewn terfynau priodol, fel y galler yn rhesymol ddysgwyl y bydd i'r drefn fawr eu diwallu yn lle eu twyllo.

Yn bumed, Mae ieuengctyd yn dueddol i geisio cario pob peth yn mlaen trwy boethder yspryd a nerth_braich_ac ysgwydd. Tybiant y dwg y rhai hyn hwy trwy bob dyryswch ac anhawsderau, heb ystyried mai perffeithrwydd y ddynoliaeth yw cysylltu ymbwylliad âg egni corph ac yspryd a'u gilydd. Ond y mae yn anhawdd i'r ieuangc wneyd hyn, gan ei fod yn myned yn gryfach bob blwyddyn. Y mae fel y llew ieuangc yn tybied na bydd arno eisieu ysglyfaeth. Oblegyd hyn y mae manyldra yn bur annaturiol i'r oed yma, a dibrisdod yn brofedigaeth. Rhoddant dafliad i'r naill beth a hergwd i'r llall. Os llyfr a roddir o law, rhaid ei daflu; yr un dynged a ddygwydd i'r het; os cribin, pigfforch, rhaw, neu gaib, cânt dafliad, torant neu beidiant; neu os dodant gareg yn y clawdd wrth gau yr adwy, rhaid ei thaflu nes bo y cwbl yn crynu, pan y dywed yr hen saer maen fod yn well rhoi y gareg ar y mur fel rhoi plentyn yn ei gryd; a bod y rhan fwyaf o bethau i'w gwneyd fel godro buwch, yn ddwys a dygn; y gwneir felly fwy o waith â llai o lafur ; y bydd y gorchwyl wedi ei wneyd a'r taclau heb eu tori.

Yn awr, ieuengetyd, nid ydym yn meddwl fod y pethau a nodwyd yn gap sydd yn ffitio pen pob un o honoch. Addefwn fod eithriadau i'r dosbarth dan sylw. Gwelir weithiau hen ben ar ysgwyddau ieuangc; er hyny, yn gyffredin y mae y pen a'r ysgwyddau yr un oed; a thra angenrheidiol yn wir yw gwylio yn erbyn y tueddiadau sydd yn ein natur yn ein harwain ar gyfeiliorn.