Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/276

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"YR HEN A WYR, A'R IEUANGC A DYBIA."

Y MAE càn hâf bellach o leiaf er pan ymadawodd hen wladwr clodwiw â'r byd hwn: preswyliai mewn rhyw gymydogaeth yn Ngogledd Cymru, ond nis gwn pa blwy', na pha sir, ac nid yw hyny o bwys i'r ysgrifenydd na'r ddarllenydd. Yr oedd yn wladaidd o ran ei ddullwedd, ac eto yr oedd rhyw fawredd arno fel yr oedd pawb yn ei barchu, ïe, yn ei wir barchu. Nid oedd na chybydd nac afradlon, nid oedd chwaith na diotwr na dirwestwr (oblegyd nid oedd Dirwest wedi ei geni yn y dyddiau hyny). Yr oedd yn uchelwr, fel y gelwid gŵr o berchen tir yn yr amser gynt; yr oedd fel llawer eraill y pryd hwnw, yn byw yn ei dyddyn ei hunan, yn llawn arno, ar yr un pryd nid oedd, fel y goludog yn y ddameg, wedi ei wisgo â phorphor a llian, ac yn cymeryd byd da yn helaethwych beunydd; ac er ei fod yn fwy disyml, yr oedd yn mwynhau cysuron y bywyd hwn, efallai, yn helaethach na'r rhai oedd yn gwneuthur ymddangosiad gwychach. Yr oedd hefyd yn cefnogi llafur, diwydrwydd, a gonestrwydd, yn nghydag ymddygiadau da eraill. Traed oedd i'r cloff, llygaid i'r dall, a chwyn y weddw a'r amddifad a ddeuai ato, ac a wrandewid ganddo, a bendith yr hwn oedd ar ddarfod am dano a ddisgynai ar ei ben. Ymgynghorid âg ef hefyd mewn pethau pwysig, ac anfynych y byddai neb yn edifarhau am ddilyn ei gynghorion. Fe ddywedir fod gŵr tirion yn well er lles iechyd gwraig dyner, na saith o ddoctoriaid; felly yr oedd tuedd heddychlon a chynghorion pwyllog yr hen uchelwr hwn yn fwy effeithiol er cadw cymydogaeth dda, na phe buasai haner dwsin o ustusiaid heddwch yn byw ynddi; ac am fod yr hen oracl hwn mor barchus yn ngolwg y goror lle y preswyliai, nid oedd nemawr o groes-ymgyfreithio yn eu plith, canys âi bron bawb, os byddai ymrafael yn dygwydd bod, ato efi ofyn ei farn ar y mater. Am ryw bethau bychain a ddygwyddai rhwng pobl a'u gilydd, ac os byddai un blaid yn son am gyfraith, dywedai yr hen oracl, "Ni thal cam bychan mo'i wrthod." Os byddai rhyw bethau pwysicach, y cynghor