Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/277

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyddai, "Cytunwch, cytunwch." Y mae y cytundeb gwaethaf, yn well na'r gyfraith oreu. Cymaint oedd ei ddylanwad, fel na byddai ond anfynych iawn neb yn myned i'r llysoedd gwladol i benderfynu achosion. Braidd nad ystyrid pawbar na wrandawai ar y prophwyd hwn yn gyndyn, torid ef allan o restr pobl onest a chywir, a gosodid nôd cnâf arno, yr hwn ond odid a lynai wrtho weddill ei oes. Meddai synwyr cyffredin da a helaeth, a chafodd oes hwy na chyffredin (oblegyd yr oedd agos yn bedwar ugain a deg oed cyn marw); tymhor maith i syllu ar helyntion dynolryw. Sylwai ar lyfr Diarhebion Solomon, (oblegyd yr oedd yn ddarllenwr ei Feibl), gwelai fod y byd o'i amgylch yn ateb i'r drych gan y gŵr doeth, ac felly yr oedd ganddo gywirach barn am ddynion a phethau o lawer na chyffredin. Hyn, yn nghyda buchedd ddifrycheulyd ac anrhydeddus, a sefyllfa annibynol, oblegyd yr oedd yn uchelwr heb uchelgais, a'i gwnelai yn fwy-fwy parchus hyd ei fedd. Hawdd yw meddwl fod colled ar ei ol pan fu farw, oblegyd er ei fod yn hen, yr oedd yn henaint têg yn gystled ag yn llawn o ddyddiau, yr oedd llawer yn fyw ac yn cofio mor wasanaethgar a chymwynasgar a fuasai iddynt, ac i'w tadau a'u teidiau o'u blaen. Ond y mae yn bryd bellach ddyfod at yr hanes a achlysurodd y sylwadau uchod. Yr oedd gan yr hen gyfaill hwn amryw denantiaid, a chyfaill oedd efe i bob un o honynt. Yr oedd yn gwybod gwerth tenant da i'w feistr tir cyn gystled a gwerth meistr tir da i'r tenant. Cwynai un o'i denantiaid wrtho un tro, "fod ganddo gymydog hynod o anhawdd bod yn ddigolled oddiwrtho, ei fod yn hanos ac yn cnoi ei ddefaid; ac os dygwyddai i'r gwartheg neu y ceffylau dori ato, fel y mae yn dygwydd yn mhob cymymydogaeth weithiau, da y diangent, os caent eu hesgyrn yn gyfain a'u cymalau yn eu lle. Y mae ei anifeiliaid yntau yn tori ataf finau, ambell dro, a byddaf yn eu troi tuag adref heb eu peryglu." "Y mae yn ddrwg genyf dy brofedigaeth; nid oes modd na thyr anifeiliaid at eu gilydd weithiau," ebe y meistr tir; "ond, hwn a hwn, a fedri di berswadio dy gymydog i ddyfod gyda thydi ataf fi, fe allai y gallwn gyfryngu rhyngoch a'ch cael i well teimlad." "Nid hwyrach y gallwn," ebe y tenant, "ar ryw dro, ond hitio ar y cymal: y mae rhyw awr yn well na'i gilydd arno yntau fel pawb eraill." "Wel," ebe yr hèn ŵr, "deuwch at eich cyfleusdra eich hunain, byddaf