Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/278

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fi yn debyg o fod adref, am fy mod yn rhy hên bellach i fyned lawer oddiamgylch." "O'r goreu," ebe y tenant, "mi a'i treiaf yn dêg." Pa fodd bynag, wedi llawer o ddyddiau, dyma y tenant a'i gymydog yn cnocio wrth ddrws yr henafgwr; cawsant eu galw i mewn, ac i eistedd i lawr; a'r hên ŵr boneddig, wedi eu cyfarch, a ddechreuodd osod yr achos o'u dyfod ger bron. Ebe fe," Y mae fy nhenant i, yr hwn sydd yn ddyn heddychol, mi a'i gwn, oblegyd y mae yn denant i mi er's llawer blwyddyn, a'i dad o'i flaen, yn cwyno dy fod yn hanos ei ddefaid, a'th gŵn yn cnoi aml un i farwolaeth; ac os tyr eidion neu geffyl atat, mai ar berygl tori ei esgyrn y bydd hyny. Y mae arnaf fi eisieu i ti altro, a pheidio a bod yn rhyw ddyn blin fel yr ydwyt wedi bod hyd yma." "Nid wyf yn malio," ebe yntau, "ffyrling goch yn un o honoch, chwi na'ch tenantiaid, ac os daw llwdn, eidion, neu geffyl 'mi rof fi iddynt da y do'nt allan o'u cut.'" "Wel," ebe yr henafgŵr, gwell i ti wrando, a chymeryd dy gynghori, fe fydd yn rhatach i ti yn y diwedd." "Eich gwaetha' chwi a'ch tenant yn eich gên, nid oes ar eich llaw wneuthur dim yn y byd i mi; nid gwaeth genyf eich gwaethaf na’ch goreu." "Gwell, a llawer gwell," ebe yr henafgwr, "i ti gymeryd cynghor; oblegyd, er nad wyf yn bwriadu myned at y gyfraith i geisio amddiffyniad, yr wy'n ddigon sicr, cyn sicred a'th eni yn droednoeth, mi ddof fi a'th ben di i lawr, ryw ffordd neu gilydd." "Eich gwaethaf yn eich dannedd. Pa beth a wnewch i mi?" ebe'r dyn blin. "Mi ddywedaf i ti beth," ebe yr hên ŵr, "y mae genyf dyddyn arall a allaf ei osod i'th gymydog, a gosodaf ei dyddyn yntau i gythraul saith gwaeth na thi dy hunan; ac os tori di goes anifail iddo ef, fe dor e' goes dau i ti; ac os cnoi di un ddafad iddo ef, fe dâl adref i'th ddefaid dithau yn bedwar dwbl. Mi fynwn i ti ystyried mai gwell i ti fod yn gymydog heddychol a diniwaid i'm tenant presenol na byw am y terfyn a dyn blin, a saith ryw gyndynrwydd yn ei galon. Cofia fod bran i frân, a dwy frân i frân front.' Ar hyn tybiodd y dyn blin y gallai gyfarfod â'i waeth, ac addawodd fod yn fwy hynaws rhag llaw, a chofiodd ddechreu yr ysgrif, "Yr hén a ŵyr, a'r ieuangc a dybia."

Y mae llawer o synwyr yn ymddangos yn llwybr yr hên frawd hwn. Yr oedd tuedd i liniaru peth ar deimlad y