Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/279

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cymydog wrth gydnabod fod rhai gwaeth, ïe, saith gwaeth nag ef ei hun, i'w cael ond chwilio tipyn am danynt. Yr oedd ystyriaeth o un gwaeth nag ef ei hun yn byw yn ei ymyl, yn dyfod yn nes at ei galon. Y mae rhai o'r diawliaid yn ddiawledicach na'u gilydd; ac felly dynion, y mae rhai blin ac eraill blinach, ac y mae rhyw ddosbarth y blinaf oll—"gosod dithau un annuwiol arno ef" sy' weddi drom. "Syrthio a wnelwyf yn llaw yr Arglwydd, ac na syrthiwyf yn llaw dyn."<ref> O'r "Methodist," Mehefin, 1855.