Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/280

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BALCHDER.

NID bob amser y bydd pethau, mwy na phersonau, yn cael eu henwau eu hunain. Weithiau fe elwir cynildeb yn gybydd—dod, a llafur yn drafferth, diwydrwydd a darbodaeth yn fydolrwydd; ac felly llawer o'r cyffelyb. Ac yn gymaint a bod pawb yn gydwybodus fod balchder wedi gwreiddio yn ddwfn yn natur dyn, y mae y naill yn drwgdybio y llall yn euog o hono, pryd na byddo. Os bydd dyn yn teimlo mesur o annibyniaeth ynddo ei hun, er iddo deimlo ei ddibyniaeth ar Dduw, dywed yr hwn sydd yn amddifad o'r teimlad annibynol hwnw, fod y cyfryw un yn falch, oblegyd ei fod yn fwy gofalus am ymgadw ar ei gorddyn ei hun nag ef. Ond a ydyw hyn yn falchder mewn gwirionedd? Nac ydyw: oblegyd heb fesur o'r annibyniaeth hwn, byddai y naill ran o'r teulu dynol yn gwneyd osgo barhaus i bwyso ar y rhan arall; a buan y byddai yn glwydaid annyoddefol. Y teimlad o fod uwchlaw cadw cwmni pob math, a ystyrir gan rai yn falchder, pan y mae y byd yn fwy na haner llawn o ddynion o gymeriad drwg, a'r cynghor apostolaidd, "Cilia oddiwrth y cyfryw," yn dra phriodol. Y teimlad o uwchafiaeth creadigaeth dyn fel creadur rhesymol—fel llwch y byd—nid balchder mo hwn ychwaith. Bod uwchlaw ymddwyn yn isel, a gwneyd troion budron, a byw mewn arferion ffiaidd a llygredig, gan roddi ei aelodau yn arfau annghyfiawnder yn ngwasanaeth y diafol—gwasanaeth cwbl annheilwng o greadur rhesymol :—edrych arno ei hun wedi ei ffurfio i ddyben mor uchel, fel nas gall fod ei uwch, nid amgen mwynhau a gogoneddu ei Greawdwr, edrych ar ei ryfeddodau, ac ymhyfrydu yn eu berffeithiau—nid balchder yn wir mo hyn. Nid balchder mewn dyn yw teimlo fod gwasanaethu chwantau ynfyd a niweidiol yn sarhad arno-ni fyn yr Arglwwdd i neb o'i greaduriaid fod mor isel eu swydd.

Ond beth yw balchder? Y mae yn gâr agos â hunan a thrachwant. Hunan yw yr uchel-bris a rydd dyn arno ei hun, a'r difyrwch y mae yn ei gael yn yr ystyriaeth ei fod