Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/281

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn meddu ar gampau, rhinweddau, a phethau da na fedd ei gymydogion mo honynt. Balchder a deimla yn gwbl fel hunan, ond gyda hyn o chwanegiad, ei fod yn diystyru eraill, gan edrych arnynt gyda dirmyg. Trachwant, drachefn, sydd deimlad awyddus i ychwanegu yr uwchafiaeth ar ragoriaeth dybiedig. Nid yw hunan haner cyn gased a balchder, eithr y mae yn llawer gwell ei foes, yn fwynach a haws ei ddyoddef, ac a fedr ymostwng er mwyn clod; eithr y mae y balch yn chwyddedig a llon'd pob man, ac yn ddïystyr o bawb o'i gwmpas, ac i raddau mwy neu lai yn peri i bob dyn gwylaidd deimlo yn llethedig. "O! mor uchel yw ei lygaid, a'i amrantau a ddyrchafwyd." Tybygid fod ei gyfoeth, ei dalentau, a'i orchestion yn rhyw Babilon fawr, yr hon a adeiladodd efe yn frenindŷ, yn nghryfder ei nerth ac er gogoniant ei fawrhydi. Y mae yr hunanol yn peri i blant dynion chwerthin am ei ben, a gwneyd yn hyf ar ei gymeriad; ond y mae y balch yn peri i Dduw a dynion ei ffieiddio, gan ei fod yn ffrom a hyderus. Par i'r gwan ei feddwl ei ofni―ond nid ei garu,—y galluog ei enaid ei ddirmygu—ac i bawb ei gasâu.

Y mae yr hunanol yn wastad yn drachwantus: ni ddywed efe byth "digon " mwy na'r bedd. Y balch hefyd a geir yn gyffredin felly; ond y mae y balch weithiau yn teimlo fel wedi cael cymaint fel mai ofer fyddai chwanegu ato. Yr hunanol a saif ar ei ddoniau a'i gampau, ond y balch a ymeifl mewn unrhyw beth a'i cyfyd rîs yn uwch, oblegyd y mae yn annyoddefol iddo feddwl ei fod yn gydradd â'i gyd-ddynion. Y teimladau hunanol hyn, sef trachwant, hunan, a balchder, sydd raff deir-caingc o ddrygioni, yr hon na thorir ar frys. Maent yn tori allan mewn pob math ar gyflafan, ac yn abl llanw y byd â galar, gruddfan, a gwae. Eu gweithred sydd fel llifddwfr yr hwn ni âd luniaeth. Awydd Nebuchodonosor am awdurdod, balchder Alexander a'i awydd am glod milwraidd, yn y dyddiau gynt, a thrachwant Napoleon yn ein dyddiau ninau, a lanwasant heolydd dinasoedd lawer â gwaed gwirion; ïe, cyrff eu lladdedigion hwy a fuont yn dail i'r ddaear mewn llawer gwlad.

Peth priodol i ddyn yw y teimlad o uwchafiaeth fel creadur rhesymol; ond wedi colli Duw, ac mewn annghof o hono, dirywiodd y teimlad hwn i falchder, gan roddi coel i yspryd cyfeiliornus, ac i athrawiaeth y cythraul—" Chwi a