Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/282

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyddwch megys duwiau." Dyn, wedi cwympo yn isel o ran ei gyflwr, a roes naid hollol wrthwyneb o ran ei ddychymyg. Mor dueddol ydyw dyn i falchder fel y cymer bob achlysur i ymgodi; ac y mae yn waith anorphen nodi yr holl achlysur iddo; ond cawn grybwyll amrywiol. Ac y mae yn syndod fod dynolryw yn gallu tynu boddhad iddynt eu hunain oddiwrth y cyfryw bethau. Ceir plant dynion yn chwanog i falchio o'u genedigaeth —tegwch pryd—nerth corphorol—talent—dysg—swydd— cynydd cyfoeth—llwyddiant mewn unrhyw beth—a dyfais. Ie, y maent yn chwanog o falchio o'u dillad, o'u tai, ac o'u dodrefn, a'u trefn o fyw. Tueddol ydynt i falchio yn eu diwydrwydd a'u medrusrwydd, eu hymddygiadau doeth, eu haelioni, eu duwioldeb; ie, ïe, ni a falchïwn hyd yn nod yn ein gostyngeiddrwydd a'n hedifeirwch! Y peth a dybiwn ni ein bod yn rhagori ynddo, yn hwnw yr ymfalchïwn.

Ond wedi y cwbl, y mae ein rheswm, ac Ysgrythyr, yn dyweyd fod hyn oll yn anfad ynfydrwydd. Fe ddywed yr Ysgrythyr mai " o flaen dyrchafiad yrä gostyngeiddrwydd (y rhinwedd gwrthwyneb i falchder), ac uchder yspryd o flaen cwymp.' Y mae y Duw mawr yn ffieiddio y balch. Y mae gan ragluniaeth Duw wïalen i gefn yr ynfyd hwn. Dynolryw hefyd ydynt wïalenau ar eu gilydd. Penderfynodd Duw ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder. Bydd i ragluniaeth ddoeth, â barn gyfiawn, yn sicr o gael y balch i lawr o'i fawredd.

"Nid rhaid dofi y difalch
Ond fe bryn byd benffrwyn i'r balch."

Nid yw balchder fawr ond gair arall am ynfydrwydd. Edrychwn ar falchder yn y man y mynom, y mae yn berffaith ffolineb. Nid mynych y gwelir dyn synwyrol yn ysgoegyn bach. Profedigaeth ffyliaid gan mwyaf ydyw. Gallodd Cyrus enwog gynal oes gyson o lwyddiant anarferol heb falchio, pan nad allodd Alexander gynal ychydig heb geisio gan ei filwyr ei addoli; ac er fod llawer o gampau ar yr arwr hwn, eto amlwg yw na feddianodd y ddegfed ran o'r synwyr cyffredin a gafodd Cyrus. Balchder teulu, er engraifft, neu falchder gwaed, fel