Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/283

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y galwai yr hen bobl, sydd ddisail. Nid oes fawr er pan oedd holl deulu dynol yn un Adda ac Efa.

"Gwnaeth Duw holl blant dynion o'r un gwaed;
A pha le y caed boneddigion?"

Onid yw yn amlwg nad yw uchel waedoliaeth ddim ond hir feddiant o gyfoeth yn yr un teulu? Balchio mewn tegwch pryd, a nerth gewynawl, sydd yr un ffunud yn ynfyd. Yn mhen ychydig flynyddau, o'r hyn pellaf, bydd tegwch gwedd wedi gwywo, a nerth wedi newid am boen a blinder; ïe, ysgatfydd mai ychydig fisoedd neu ddyddiau o gystudd a fydd yn ddigon i'n hamddifadu o'r naill a'r llall; a pha fodd y gall neb yn ei iawn bwyll ymfalchio ynddynt? Talentau a doniau ydynt roddion Duw; a pha beth sydd gan neb ar nas derbyniodd? ac os derbyniodd, paham y gorfoledda ac yr ymfalchia, megys pe byddai heb dderbyn? Y mae yn fath o wallgofni ein bod heb ystyried mai am y pethau hyn oll y rhoddwn gyfrif i'r hwn a roddes ei dda atom.

Balchder swydd sydd hefyd yn gymaint ffolineb a dim a aller edrych arno; oblegyd yn fuan byddwn heb ein swyddau yn rhoddi cyfrif i Dduw am y modd yr ymddygasom ynddynt. Cyfoeth yr un modd sydd anwadal a damweiniol; yn fynych cymer adenydd, ac eheda ymaith fel eryr tua'r wybr. Galwai yr hen bobl hwn yn falchder pwrs, am fod pawb sydd dan ei lywodraeth yn llawnach eu pyrsau na'u penau.

Ceir pobl cyn waned a balchio yn eu dillad, er nad oes gan na brenin na deiliad ond dillad ar yr ail law. Bu y ceirw yn y coed, anifeiliaid y maes, a bwystfilod yr anialwch, a hyd yn nod y pryfed a llysieu y ddaear, yn eu defnyddio o'u blaen fel eu haddurn a'u clydwch, a hyny heb falchio o honynt, fel y gwna dyn yr hwn sydd yn eu cael ar eu hol.

Wedi y cwbl, dybygid mai balchder ysprydol yw y gwrthunaf o bob balchder,—balchio ein bod yn ffafr Duw. Y mae balchder swyddau sanctaidd yn dra ffiaidd : y mae y lefain hwn yn lefeinio yr holl does, ac yn gwneuthur yr holl ymarferion rhith sanctaidd yn fwg yn ffroenau yr Hollalluog, yn dân yn llosgi ar hyd y dydd. O! yr anfad ynfydrwydd sydd yn hyn oll! Y mae yspryd