Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/284

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

balch chwyddedig yn berffaith wrthwyneb i'r efengyl, ac i'r ymostyngiad edifeiriol tuag at Dduw, a'r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. "Yr annuwiol gan uchder ei ffroen ni chais Dduw, ac nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef."

Fe allai fod yn bryd i ni bellach roddi pen ar hyn o erthygl; ond hwyrach na byddai yn anfuddiol rhoddi ychydig gynghorion er gwellhau y chwydd hwn; ac yn

1. Gwybydder nad oes modd myned trwy y porth cyfyng heb gael y chwydd hwn i lawr. Y mae y balch yn mhob oes yn cario ei ben yn rhy uchel, yn gystal ac yn cario gormod o gnawd i fyned trwodd.

2. Cofia, ddyn, mai creadur cyfrifol ydwyt i'r Duw mawr am bob peth, ac nad oes na thalent na chyfoeth, na dawn wedi eu rhoddi i ymfalchio ynddynt, ond i'w defnyddio; ac y byddi yn fuan yn cael dy obrwyo am yr iawn ddefnydd, neu dy gosbi am y cam ddefnydd o'r cyfan.

3. Ystyria dy fod yn euog o flaen Duw, ac nad oes ond rhad drugaredd Duw am dy fywyd. Os myn, fe all dy iachau; ond nid oes rhwymau arno i wneyd hyny; ac nid oes dim oddiar y ffordd oddieithr balchder dy galon. Na fydd, gan hyny, heb wybod cyfiawnder Duw, ac na chais osod i fyny dy gyfiawnder dy hunan, heb ymostwng i gyfiawnder Duw.

4. Cofia dy ymddibyniad ar y Duw mawr am bob peth. Y mae dy anadl yn ei law, ac einioes pob math ar ddyn. Dyfodiad pob trugaredd bob boreu oddiwrtho ef. "Bob boreu y deuant o newydd, a mawr yw ei ffyddlondeb."

5. Ystyr fawredd Duw; yr hwn sydd yn lledu y nefoedd fel llen, ac fel pabelli breswylio ynddi—yr hwn y mae pob dyn yn wagedd o'i gymharu âg ef, ïe, yn ddim, yn llai na dim. Efe sydd o dragywyddoldeb a hyd dragywyddoldeb, a thithau er doe, ac heb wybod, mewn cymhariaeth, ddim. Yn ymyl y Duw mawr hwn pa beth yw dyn? Gwagedd yn ddiau yw pob dyn pan fo ar y goreu. Nid yw ei nerth ond gwendid, na'i oleuni ond tywyllwch, na'i ddoethineb ond ynfydrwydd; ac fe dybygid fod yn annaturiol i hwn fod yn falch! Saf, ddyn, balch, edrych ar ryfeddodau Duw, ac ymbwylla. Nid ydwyt ond bychan a gwan o'th gymharu â rhai o greaduriaid Duw, a llawer llai o'th gymharu a'r ddaear a greodd Duw i ti gael preswylfod, ac nid yw y ddaear ond