Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/285

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bechan iawn o'i chymharu â holl greadigaeth Duw, na'r greadigaeth i gyd ond fel dyrnaid o lwch wedi ei wasgar yn yr awyr o'i gymharu a'r Hwn a'i gwnaeth.

6. Myfyria ar gariad a haelfrydedd Duw, yr hwn, er ei fod yn uchel, a edrych ar yr isel; ac er ei fod yn fawr, eto ni ddïystyra neb. Y mae yn edrych ar y truan a'r cystuddiedig ag sydd yn crynu wrth ei air. Cofia hefyd ei fod wedi cymeryd y natur ddynol i undeb a'i natur ei hun yn mherson ei anwyl Fab, yn un peth, ysgatfydd, i ddysgu gostyngeiddrwydd i holl ddeiliaid ei lywodraeth, ymhlith llu y nef a thrigolion y ddaear.

7. Gwel brydferthwch y gras o ostyngeiddrwydd. Y mae yn deg odiaeth. Mor hawddgar yw ei wedd yn anad neb, mor foddlawn, mor siriol, fel y tybiech y byddai ddedwydd yn nghanol trallod a phob gorthrymderau. Edrycher arno yn Nghyfryngwr y Testament Newydd yr hwn a dra—ddyrchafodd Duw, ac a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw yn y byd hwn a'r hwn a ddawyr hwn y darostyngwyd pob peth dan ei draed, ac y rhoddwyd iddo bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear—yr hwn sydd yn blaenori yn mhob peth; ïe yr hwn hefyd a wnaed yn etifedd pob peth—yr hwn y mae y tywysogaethau a'r awdurdodau wedi eu darostwng iddo,—yn Arglwydd y greadigaeth, er gogoniant Duw Dad,—mae efe ar yr un pryd yn addfwyn a gostyngedig o galon. Edrych ar y Person mawr hwn; ymbarotoa, a saf o'i flaen ef, yn yr hwn y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorphorol, a'i ddynoliaeth yn holl degwch ei hieuengetid, a'r cyfan yn cael eu haddurno â gostyngeiddrwydd. Golwg ar ogoniant Brenin Sion a barai i falchder syrthio fel Dagon o flaen arch Duw Israel. "Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion, a'r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnw."—Traethodydd, Ion., 1851.

PRYDLONDEB.

DYWEDIR am y sant, y bydd "fel pren wedi ei blanu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd;" ac ebai Solomon, "O mor dda yw gair yn ei amser.' Ac yn esiampl i'w holl greaduriaid rhesymol, gwnaeth y Duw mawr "bob peth yn deg yn ei amser." Drachefn, dywedir fod" amser i bob peth, ac i bob amcan.'