Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/286

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn gyffredinol, y mae rhyw adeg i wneuthur pob peth, yr hon, os esgeulusir hi, na ddychwel eilwaith. Ymddengys fod mwy na haner plant Adda yn ddifeddwl am yr adeg hon; tybiant, os gwnant eu dyledswydd rywbryd, fod pob peth yn dda, heb ymsynied fod peidio ei gwneyd yn ei phryd mewn rhai amgylchiadau cynddrwg a pheidio ei gwneyd oll. Efallai fod y diffyg hwn yn gymaint. ag un arall yn mhlith y Cymry, ac ysgatfydd yn fwy nag ydyw yn mysg y cenedloedd eraill a breswyliant yr ynysoedd Prydeinaidd. Mae gan y Saeson a'r Ysgotiaid yn gyffredin "le i bob peth, a phob peth yn ei le." Mae cadw pob peth yn eu lleoedd eu hunain ar ol bod yn eu defnyddio yn llawer llai o drafferth na chwilio pob man am danynt pan y byddo eu heisieu, ac wedi yr holl chwilio a chwalu, methu eu cael yn y diwedd; pan y gallai manylrwydd prydlawn alluogi y dyn i roddi ei law arnynt ar y cynyg cyntaf.

Mae bod yn anmhrydlawn yn cyflawni ein hamodau yn fai. Pan yr addawom fod mewn rhyw fan ar ryw bryd, dylem fod yn brydlawn yno yn ol ein haddewid. Dywedir fod Arglwydd Nelson yn cael dodrefn newyddion i'w gabin un tro, a dywedai wrth y gŵr oedd yn eu gwerthu y byddai yn rhaid eu bod yn y fan a'r fan o'r hyn bellaf erbyn chwech o'r gloch y boreu; ac atebodd hwnw yr anfonai y cwbl erbyn chwech yn ddiffael. "Nage," ebe Nelson, bydded eu bod yno chwarter awr cyn chwech, oblegyd i'r chwarter awr yn mlaen yr wyf fi yn ddyledwr am bob buddugoliaeth a enillais erioed." Marsiwndwr yn America unwaith a gytunai â phen—saer am wneyd rhyw gyfnewidiad yn ei swyddfa, a gofynai iddo pa bryd y gallai ddechreu ar y gwaith. Atebai y saer, y gallai ddyfod y pryd a'r pryd. "Nid oes dim brys," ebai y llall," ond byddwch chwi yn sicr o ddyfod pryd yr addawoch." Ar hyn ystyriai y saer ei amgylchiad, a gosodai yr amser i ddechreu dipyn pellach. "Wel," meddai y marchnatawr, "a fyddwch chwi yn sicr o ddyfod y pryd yr enwasoch?" "Os byddaf byw," atebai y saer, byddaf yma y pryd hwnw." Y marsiandwr a ddododd y dydd a'r mis penodedig ar lawr yn ei lyfr, ac aeth pob un i'w fan. Y diwrnod i ddechreu y job a ddaeth, ond nid oedd dim o'r saer i'w gael. Ar hyn, aeth y marsiandwr at gyhoeddwr y papyr newydd oedd yn y