Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/288

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

proffesu crefydd am amryw flynyddoedd cyn eu marw, ac ni welwyd casgl yn yr holl yspaid hwnw na byddai arnynt hwy ffrwyth yn ei bryd. Byddai chwe'cheiniog Charles mor sicr a machludiad haul yn yr hwyr, os byddai ef neu ei gymhares yn gallu codi a cherdded. Mae y ddau wedi marw er's tro mewn tangnefedd, ac mewn henaint teg. Cawsant eu bendithio gan ragluniaeth â'r fendith hono a ddymunai y duwiol Philip Henry i'w blant―y fendith sydd yn peri i ychydig bach fyned yn mhell.

Yr hanesyn uchod sydd wir hanes; a phe byddai yr esiampl yn cael ei dilyn, byddai gan agos bawb ddigon, a chan y rhan fwyaf beth i'w gyfranu i'r hwn y mae angen arno, a phob peth yn ei amser. Ond yn lle bod felly, mae, ysgatfydd, y rhan fwyaf yn talu eleni am yr hyn a fwytagant ac a yfasant y llynedd; a'r crydd, y saer, y gôf, a siopwr yn cwyno, y naill am yr uchaf a'r llall, eu bod y'rmethu cael eu harian er eu gofyn rifedi eu danedd o weithiau; a chyn y bydd yr ystori drosodd, odid na chaiff crefydd ergyd, trwy ddywedyd fod proffeswyr crefydd can waethed a'r gwaethaf, ac na thâl llawer o honynt dros eu blingo. Fel hyn, y mae teimladau drwg, beth afrifed, yn cael eu cynyrchu. Ystyrier fod arian yn rhy ddrud os rhaid rhoddi eu gwerth am danynt, ac wedi hyny cerdded a chrefu am danynt eu gwerth eilwaith, heblaw yr esgusodion celwyddog a wneir ar yr achlysuron hyn. Nid talu rywbryd cyn dydd y farn olaf sydd eisieu, ond talu yn yr amser a addawsom. Gall y talwr prydlawn gael llwyth long ar goel os myn, a chael benthyg holl arian ei holl gydnabyddiaeth. Pa fodd y mae hyny yn bod? Gwobr ei brydlondeb ydyw, yr hyn na chaiff yr anwadal mwy na thamaid o'r lleuad. Prynu ac addaw tâl heb feddwl am gyflawni sydd cynddrwg mewn egwyddor a lladrata; ac y mae peidio talu yn yr amser a addewir, er bwriadu, weithiau bron cynddrwg a pheidio talu byth.

Yr oedd pedwar cymydog yn byw yn yr un ardal, ac mor agos at eu gilydd fel y gallai y naill weled mŵg y boreu o simdde pob un o'r tri eraill. Enwau y rhai hyn oeddynt, Elis Esgeulus, Dafydd Sion Ddiofal, Ifan Tranoeth-y-dy'-gwyl, a Huw Rhag-ll'w'gu. Tyddynwyr bychain oedd pob un o'r pedwar, ond bod Huw yn arfer prynu a gwerthu amryw nwyddau, ac nid anfynych yr âi y tri hen frawd arall at Huw mewn angen, o herwydd nid