Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/289

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd neb arall yn y gymydogaeth a werthai ddim iddynt ar goel, ac oblegyd hyn yr oedd yn rhaid myned at Huw rhag ll'w'gu. Addefir mai nid yr enwau yna oedd eu henwau bedydd, fel y dywedir. Cawsant eu bedyddio a'u galw wrth eu henwau priodol, fel plant a dynion ieuainge eraill, am flynynyddoedd lawer; eto, am na wnaethpwyd hwynt yn blant i Dduw, ac yn aelodau o Grist, ac nad oedd arwydd arnynt eu bod yn debyg o fod yn etifeddion teyrnas nefoedd, a chyda hyny, am eu bod yn isel eu cymeriad yn eu hymdriniaethau â phethau y fuchedd hon, yr enwau a nodwyd a roddes y werin yn gyffredin arnynt yn mhen enyd wedi iddynt briodi, a dechreu trin y byd. lë, mor gymhwys y ffitiai yr enwau hyn hwynt â'r cadnaw i Herod, ac nid oedd modd iddynt ymysgwyd oddiwrthynt trwy deg na hagr. Teimlai Elis, Ifan, a Huw, yn anesmwyth ddigon oblegyd y llysenwau hyn; ond am Dafydd Sion Ddiofal, yr oedd ef mor ddiofal am hyn ag yr oedd am bob peth arall.

Yr oedd tyddyn Elis Esgeulus yn dra annedwydd yr olwg arno, a'i dŷ heb ffenestr gyfan, na drws nad allai y cathod a'r perchyll fyned trwy ei ben isaf yn groeniach, yn ol ac yn mlaen, a'r ieir yr un modd. Yr oedd gwraig Elis, megys y dywed yr hen air, yn drimings at y lliw i'r dim; cadachau na wyddid pa nifer a amgylchai ei phen, heb un cewyn glân o'i choryn i'w sawdl, a phâr o glocsiau am ei thraed, a'r rhai hyny a'u pen ôl yn agored. Ar y fferm, nid oedd na chlawdd na chamfa ag ôl ymgeledd arnynt; ac ni welid na drws ar feudy, na llidiart ar adwy, ond pob peth draws eu gilydd. Ni welid byth gan Elis faes o lafur glân, ond byddai ei haner yn chwyn. Mewn gair, ymddangosai y gwartheg, y ceffylau, a'r moch hefyd, fel pe buasent tan felldith. Er hyn oll yr oedd Elis yn rhyw lun o fyw er's blynyddau fel hyn, gan nofio rhwng deuddwr i'r lan y naill flwyddyn ar ol y llall; yr oedd angen yn ei orfodogi i fyw yn gynil, os nad yn galed weithiau. Yr oedd ei dyddyn hefyd am a dalai yn dda, a gwyddai Elis hyny; o ba herwydd, glynai wrtho fel y cranc wrth y gareg. Ond am Dafydd, yr oedd ei fferm ef yn well ei threfn o gryn lawer; gwelid ambell glwtyn o honi yn dda yr olwg arno. Yr oedd ganddo ef well gwraig; a byddai gan Ddafydd cystled pedwar mochyn a dim oedd yn y