Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/290

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymydogaeth; ac yr oedd yn burion llaw at bob gorchwyl. Er hyn oll, a llawer o bethau da eraill, yr oedd diofalwch yn codi toll drom ar gymaint ag a feddai; byddai ychwaneg na degwm ei holl gynyrch yn myned yn ddiwerth bob blwyddyn. Byddai y troliau, yr erydr, a'r ugau, allan yn y gwlaw a'r gwres o fis bwy—gilydd. Gwelid weithiau y moch a'r gwyddau yn yr ŷd, a llawer gwaith y ceid y ceffylau a'r gwartheg yn y cae gwair am haner diwrnod; ac os byddai y gwynt mawr wedi tori tô y tŷ neu'r beudŷ, neu dô y gwair neu yr ŷd, felly y caent' fod am fisoedd, er na chywilydd na cholled. Ac eto er hyn i gyd, a llawer o'r cyffelyb, am fod gan Ddafydd wraig dda, yr oedd yn gwneyd bywioliaeth yn lled ryfedd. Eithr am Ifan, yr oedd ef fel pe buasai wedi tyngu na wnai ef ddim yr un amser a phobl eraill. Gwelid ef yn fynych yn hau haidd, ac yn planu pytatws, am bythefnos neu dair wythnos o hâf; a phan y byddai ei gymydogion wedi darfod â'u cynhauaf, dyna y pryd yr oedd Ifan brysuraf. Byddai ei wair a'i ŷd heb eu troi hyd galangauaf, pan y byddai llawer o'r naill a'r llall wedi pydru; ac os dygwyddai iddi rewi yn gynar, rhewai llawer o'i bytatws cyn eu codi o'r ddaear.

Dyna i ti, ddarllenydd, gipolwg ar y tri wŷr hyn, ac y mae tro Huw i ddyfod ger bron bellach. Yr oedd Huw *yn nodweddiad tra gwahanol i'r tri. Credai ef mai "Goreu cyfaill, ceiniog;" a mynai fwy na'i gwerth am dani, os byddai modd, a rhoddai lai na'i gwerth yn ei lle; ac am hyny nid âi neb ato ond rhag llewygu, ac felly y cafodd ei gyfenw. Gwerthai Huw i rai drwg am dalu, ond iddo ef gael uchelbris; a mynai yr arian os byddai dim y tu allan i groen y dyn; ac nid oedd wiw i neb feddwl byw a bod yn nyled Huw yn hir. Gwerthai bob peth braidd yn uwch na'r farchnad, ond ei gydwybod; cai hono weithiau fyned am ychydig, meddynt.

Am grefydd y pedwar, ni byddai yr un o honynt yn myned i lan nac i gapel yn gyson. Elis a'i gymhares a deimlent eu hunain islaw eu cymydogion pan mewn cynulleidfa, am eu bod yn aflêr eu gwisgoedd. Byddai Dafydd yn myned i bob tŷ addoliad yn y plwyf ar dro, ac nid oedd waeth ganddo pa le; er hyny byddai gartref lawer Sabbath. Pan y byddai y wraig yn pregethu iddo ei ddyledswydd o fyned i wrando, cychwynai i gael llonydd