Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/291

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganddi; ond nid oedd dim ymddiried na thröai ef i rywle neu gilydd, ac na welai y wraig mo hono yn yr addoliad. Ond am Ifan, yr oedd ef yn rhy hunan—dybus i fyned, oddieithr yn anfynych, i le yn y byd. Nid oedd neb yn iawn yn ei olwg ef ond efe ei hunan, megys nad oedd ef ei hunan yn iawn yn ngolwg neb arall. Ni welwyd mo hono erioed yn nechreu un addoliad; os deuai ar ryw dro, byddai haner yr addoliad wedi pasio. Gwelwyd Huw, pan yn ieuangc, yn myned weithiau i'r capel newydd; ond wedi dechreu trin y byd, a chasglu tipyn o arian, a deall fod pawb yn ei gyfrif yn gybydd, aeth y capel yn annyoddefol iddo. Byd ac arian oedd ei holl feddylfryd.

Ond i ddybenu hyn o hanes can fyred ag y gallom— prynodd Elis Esgeulus fuwch gan Ifan Tranoeth-y-dy'gwyl am ddeg punt, ac addawodd dalu am dani Galanmai, yn y ffair oedd yn y pentref cyfagos. Tua Gŵyl-fair, prynodd Dafydd Siôn Ddiofal geffyl gan Elis am ddeuddeg punt, ac addawodd yntau dalu "can saffed â bank," yn ffair Galanmai. Calanmai a ddaeth, ac aeth Ifan at Elis, ac Elis at Ddafydd, ond dim arian nid oedd i'w cael. Mae yn rhaid cyfaddef fod yn ddrwg dros ben gan Ddafydd hyn, er hyny, gan ei fod yn un mor ddiofal am dalu, nid oedd neb yn y ffair a roddai fenthyg deg punt iddo; ac nid oedd neb yn wir a roddai fenthyg i un o'r ddau eraill, oblegyd Dafydd oedd y goreu o'r tri, ond ei fod yn ddiofal. Pa fodd bynag, gorfu ar Ifan fod hebddynt. Erbyn hyn yr oedd hi yn dranoeth y dy’gwyl ar Ifan. Yr oedd ei feistr tir wedi myned yn mron ar ei lŵ, os na thalai ryw gymaint Galanmai, y gyrai failïaid i'w dŷ, ac y gwerthid y cwbl yn y tŷ ac allan, am yr uchaf ei geiniog. Ac felly bu; a phrynodd Huw Rhag-ll'w'gu y rhan fwyaf o'r eiddo am lai na haner a dalent. Erbyn i'r meistr tir gael ei ofyn, nid oedd gan Ifan ddim ei hunan, na dim i neb arall; ac y mae yn debyg y gorphena efe a'i wraig eu hoes yn nhŷ y tlodion. Ni a welwn mai diofalwch Dafydd oedd yr achos o hyn oll; oblegyd gwellâodd y byd yn fuan gwed'yn; ac y mae lle i feddwl, er diweddared oedd Ifan, y gallasai ddyfod i fyny, ac y buasai y boneddwr yn aros wrtho oni buasai iddo gael ei siomi. Pa sawl amgylchiad tebyg i hyn all fod! Dichon i un siomedigaeth gynyrchu llawer; ac nid oes na phen na pherchen a all ddywedyd pa faint o deimladau pechadurus